Mae’r wythnos hon yn Wythnos Cynnig Cymraeg, a bob dydd bydd blog newydd ar golwg360 gan sefydliad sydd wedi derbyn y Cynnig.

Mae wythnos y Cynnig Cymraeg, yn gyfle i ddathlu y cyrff hynny nad ydyn nhw yn dod o dan gwmpas y Safonau, ond sydd yn awyddus i ddatblygu cynlluniau Cymraeg er mwyn gwella eu perthynas gyda’u cwsmeriaid a sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog ar gael yn naturiol. Dyna yw hanfod y Cynnig Cymraeg.

Ers i’r cynllun gael ei lansio yn 2020, mae dros 100 o fusnesau ac elusennau wedi derbyn cymeradwyaeth ac mae brwdfrydedd tuag at y cynllun.

Bydd cyfle i chi ddarllen mwy am rai ohonyn nhw drwy gydol yr wythnos hon ar golwg360, ac os ydych chi yn awyddus i weithio tuag at gymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.


Cynnig Cymraeg Celfyddydau SPAN

Elusen gelfyddydau cymunedol egnïol yw SPAN, wedi’i lleoli yn Arberth gyda hanes 30 mlynedd o ddod â’r celfyddydau i sir Benfro wledig.

Pa wasanaethau Cymraeg ydych chi’n eu cynnig?

Mae SPAN yn sefydliad dwyieithog balch gyda staff, aelodau bwrdd, gwirfoddolwyr, ac artistiaid sy’n siarad Cymraeg. Mae gennym raglenni Cymraeg a dwyieithog.

Pam fod defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i chi?

Mae’r Gymraeg yn ganolog i’n cymuned. Mae 25.2% o boblogaeth sir Benfro yn siarad rhywfaint o Gymraeg, sy’n codi i 70.6% o’r boblogaeth mewn ardaloedd yng ngogledd y sir, rhai o’r dwyseddau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru gyfan. Mae’r iaith yn rhan o’r bobol a’n diwylliant.

Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg o’r penderfyniad i baratoi cynllun i dderbyn cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd.

Fe ddechreuon ni ddatblygu ein cynllun fel ffordd o ffurfioli ein hymrwymiad i’r Gymraeg, a chafodd templed ei fabwysiadu sydd ar gael gan y Comisiynydd.

Cafodd y cynllun hwnnw ei adolygu ar ôl Covid. Cawsom help gydag ychydig o adrannau a chafodd y cynllun ei drafod yn ei gyfanrwydd.

Y flwyddyn ganlynol, fe ddiweddarom adrannau a’i gyflwyno eto. Argymhellwyd ein bod yn agos i dderbyn y Cynnig Cymraeg. Unwaith eto, gyda chymorth tîm Hybu’r Comisiynydd, cafodd ein cynllun ei ddiweddaru, a chyflwynom fersiwn newydd i’w gymeradwyo.

Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?

I SPAN, mae’n ddatganiad clir a chyhoeddus o’n hymrwymiad i’r Gymraeg. Mae’n hawdd dweud eich bod yn gefnogol ac yn cynnig gwasanaethau Cymraeg, ond mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn ei gwneud yn amlwg, ac yn dangos ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei addo.

Beth yw’r budd i chi o dderbyn y Cynnig Cymraeg?

Fe wnaeth y gefnogaeth gafodd ei chynnig fel rhan o’r broses ein helpu i adolygu a chryfhau ein gwaith ymhellach.

Mae hefyd yn nod ansawdd defnyddiol ar gyfer ein gwaith gyda phartneriaid a chyllidwyr i ddangos ein hymrwymiad.

Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?

Mae ein cymuned yn cael y cyfle i ymwneud â chelfyddydau a diwylliant yn eu dewis iaith. Mae gweithio’n ddwyieithog a gydag artistiaid Cymraeg eu hiaith yn magu syniadau newydd a chydweithrediadau creadigol i’n cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, a’n cymuned ymgysylltu â nhw.

Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?

Mae wedi ein helpu i wneud ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn gyhoeddus.

Fyddech chi’n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?

Yn bendant, mae’r gefnogaeth a’r cyngor gaiff ei gynnig, ynghyd â’r hyder mae’n ei roi i chi wrth ei dderbyn, wedi bod yn help mawr i’n gwaith.

Oes gyda chi unrhyw gyngor i sefydliadau eraill sy’n ystyried gweithio tuag at y Cynnig Cymraeg?

Ewch i mewn iddo gyda pharodrwydd i ddysgu. Mae’r broses yn ymwneud â deall lle gallwch wella a dathlu’r camau rydych chi wedi’u cymryd. Ceisiwch beidio â meddwl amdano fel rhywbeth sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Mae’n cyffwrdd â phob rhan o’n gwaith, o’n recriwtio a’n gwaith hyrwyddo, i’n rhaglenni a chyfansoddiad y bwrdd, ac mae pob elfen yn gryfach o’i herwydd.