Mae arweinydd plaid Esquerra, un o bleidiau annibyniaeth Catalwnia, yn awyddus i barhau yn ei rôl iddo fe gyhoeddi ei ymddiswyddiad.

Mae Oriol Junqueras, arweinydd Esquerra Republicana, wedi cyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu ar ôl etholiadau Ewrop.

Ond mae disgwyl i’w ymddiswyddiad fod yn un dros dro, ac y bydd yn dychwelyd erbyn Tachwedd 30 i gyflwyno’i ymgeisyddiaeth i’w harwain eto.

Mae awgrym fod mynd ati i ail-lunio’r blaid yn dilyn colledion yn yr etholiad ar Fai 12, pan gollodd y blaid 13 sedd, wedi adfywio’i awydd i barhau yn y swydd.

Dywed ei fod yn awyddus i gynnal sgwrs ag aelodau’r blaid cyn penderfynu ar y ffordd ymlaen iddyn nhw.

Argyfwng

Yn sgil colli’r etholiad, mae Esquerra hefyd wedi colli’r arlywyddiaeth, gyda Pere Aragonès yn cyhoeddi ei ymddiswyddiad yntau hefyd.

Bydd Marta Rovira, ysgrifennydd cyffredinol y blaid, hefyd yn camu o’r neilltu.

Mae’r ddau yn awyddus i weld arweinydd newydd wrth y llyw.