Mae Cabinet newydd Cyngor Sir Penfro, dan yr arweinydd newydd Jon Harvey, yn “gic yn wynebau” siaradwyr Cymraeg, ac mae bellach yn annibynnol “mewn enw yn unig”, medd aeloda’r gwrthbleidiau.

Yn ystod cyfarfod blynyddol Cyngor Sir Penfro ar Fai 10, fe wnaeth y Cynghorydd Jon Harvey drechu Di Clements, arweinydd y Grŵp Ceidwadol, o 30 pleidlais i 27 ar ôl i’r cyn-arweinydd David Simpson gyhoeddi ei fod e am gamu o’r neilltu ar ôl saith mlynedd yn y brif swydd.

Mae’r Cynghorydd Jon Harvey wedi cyhoeddi ei Gabinet newydd, gyda dau aelod newydd – Joshua Beynon a Jacob Williams – yn ymuno am y tro cyntaf, gyda’r cyntaf ohonyn nhw yn olynu’r Cynghorydd Alec Cormack, sydd wedi camu o’i rôl yn Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol.

‘Yr un hen Gabinet ag o’r blaen’

Mae aelodau’r Grŵp Ceidwadol wedi ymateb i’r Cabinet newydd.

“Fe wnaeth Jon Harvey addo newid pan ddaeth yn arweinydd, ond eto dyma ni â’r un hen Gabinet yn codi treth y cyngor ag a welson ni o’r blaen,” meddai Rhys Jordan, cynghorydd St. Florence.

“Mae cynyddu nifer yr aelodau Cabinet Llafur eisoes yn dangos nad oedd yr arweinydd o ddifri am weithio’n drawsbleidiol, a bod ganddo fe fwy o ddiddordeb mewn cadw’r dirprwy arweinydd [Paul Miller] yn hapus.”

Ergyd i siaradwyr Cymraeg

Mae’r Cynghorydd Aled Thomas, rheolwr busnes y grŵp ac un o bencampwyr y Gymraeg yr awdurdod, wedi disgrifio’r Cabinet fel “cic arall yn wyneb siaradwyr Cymraeg ledled y sir, yn ogystal â diffyg cynrychiolaeth i drigolion yng ngogledd y sir”.

“Mae’r Cynghorydd Jon Harvey yn dangos ei ddirmyg llwyr tuag at y Gymraeg drwy beidio â phenodi unrhyw Aelod Cabinet sy’n siarad Cymraeg, yn union fel y gwnaeth yr arweinydd blaenorol David Simpson,” meddai.

Dywed y Cynghorydd Huw Murphy, arweinydd newydd y Grŵp Annibynnol, fod y Cabinet newydd “bellach yn fwy De Penfro na’i ragflaenydd, gyda’r un siaradwr Cymraeg a dim ond dau aelod Cabinet i’r gogledd o East Williamston.”

‘Heriau difrifol’

“Mae’n anffodus, cyn ffurfio’i Gabinet, nad oedd yr arweinydd etholedig newydd wedi estyn allan i’r grŵp gwleidyddol mwyaf, ond mae’n hollol ddisgwyliedig,” meddai Huw Murphy.

“Fe wnaeth y Cynghorydd Harvey fethu ag ennill cefnogaeth y mwyafrif o aelodau ar Fai 10, sy’n ddechrau drwgargoelus, a bydd ganddo fe heriau difrifol wrth basio polisïau yn y Cyngor llawn os na fydd yn cydweithio go iawn.

“Mae angen i’r Cynghorydd Harvey ddeall nad yw cydweithio’n stryd un ffordd, ac mae ei Gabinet newydd yn barhad o raniadau ei ragflaenydd.”

Disgrifiodd e benodiad Jacob Williams fel “fwy na thebyg y gyfrinach waethaf yn Neuadd y Sir”, gan rybuddio y gallai’r blogiwr a chynghorydd heb gysylltiadau gwleidyddol wynebu “rhai heriau nawr fod gan ei swydd Cabinet newydd gyfrifoldeb ar y cyd a bod rhaid derbyn cyfarwyddyd gan ddirprwy arweinydd Llafur, ac yn ddiau ar adegau bydd rhaid derbyn penderfyniadau Cabinet sydd wedi’u gwneud gan gynghorwyr Llafur eraill, yn ogystal â’r Cynghorydd Sinnett o Blaid Cymru.”

Teyrnged i Alec Cormack

Talodd e deyrnged ar ymadawiad y Cynghorydd Alec Cormack, gan ddweud bod “ymadawiad y Cynghorydd Cormack yn annisgwyl, a rhaid mai dyma ganlyniad Cyllideb 2023-24 pan oedd y Cynghorydd Miller wedi’i orfodi i gyflwyno gwelliant i atal gwrthdystiad gan gynghorwyr mewn grym er mwyn osgoi colled anochel o ran argymhelliad y Cabinet o gynnydd o 16%”.

“Mae’r Cynghorydd Cormack yn cael ei ystyried ar draws y siambr yn berson parchus iawn, a bydd colled ar ôl ei agwedd dawel a phwyllog, ac mae’n ymddangos ei fod e wedi dioddef yn sgil methiant y weinyddiaeth ddiwethaf i basio’r gyllideb maen nhw eu hunain wedi’i hargymell,” meddai.

‘Pwysau enfawr’

Dywed fod y Cynghorydd Beynon, olynydd y Cynghorydd Alec Cormack, yn “wynebu pwysau enfawr wrth ymdrin â’r argyfwng ariannol mae Sir Benfro ynddo, ac ymhen amser bydd yn cyflwyno cyllideb i’r Cyngor llawn fis Mawrth nesaf gan wybod fod diplomyddiaeth ei ragflaenydd wedi methu â sicrhau digon o gefnogaeth i gymeradwyo cynnydd o 16% yn nhreth y cyngor eleni”.

“Y grŵp Annibynnol yw’r unig grŵp o gynghorwyr bellach o fewn Cyngor Sir Penfro sy’n annibynnol ac yn rhydd rhag dylanwad plaid,” meddai.

“Y realiti go iawn yw fod cynghorwyr heb gysylltiad pleidiol wedi galluogi ffurfio Cabinet llawn cynghorwyr Llafur a Phlaid Cymru, sy’n cynrychioli deuddeg allan o 60 o wardiau yn Sir Benfro, gyda dim ond pump o gynghorwyr heb gysylltiad neu annibynnol yn y Cabinet o blith 35 o gynghorwyr sir annibynnol etholedig.

“Felly chwedl yw’r honiad gan gynghorwyr heb gysylltiad eu bod nhw’n hollol annibynnol.”

‘Ffrind beirniadol’

“Mae’r Grŵp Annibynnol wedi egluro y byddwn ni’n ffrind beirniadol i’r weinyddiaeth newydd, ac rydym eisoes yn gwneud hynny drwy dynnu sylw at ddylanwad cynyddol Llafur dros weinyddiaeth sydd bellach yn ymddangos fel pe bai’n annibynnol mewn enw yn unig,” meddai’r Cynghorydd Huw Murphy, wrth gyfeirio at ddatganiad wnaeth e wrth ddod yn arweinydd ei grŵp yn ddiweddar.

Ymateb

“Roeddwn i eisoes wedi gwahodd arweinwyr y Grŵp Gwleidyddol Annibynnol a’r Grŵp Ceidwadol i gyfarfod â fi cyn i’r datganiadau hyn gael eu cyhoeddi, a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio’n adeiladol â phob cynghorydd,” meddai’r Cynghorydd Jon Harvey, arweinydd y Cyngor.