Mae Carrie Harper, cynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam, yn dweud bod y broses o orfodi’r Cyngor i fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol yn un “wallgof”.

Daw ei sylwadau ar ôl i gynghorwyr Wrecsam ennill yr hawl i apelio’r penderfyniad.

Fis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Cyngor Wrecsam fabwysiadu’r cynlluniau ar ôl wyth mis, er eu bod nhw wedi cael eu gwrthod ddwywaith o’r blaen.

Ar ôl y ddwy bleidlais fis Ebrill a Mehefin y llynedd, dywedodd y llysoedd y dylid pasio’r cynllun, neu fe allai cynghorwyr wynebu cyfnod o garchar.

Wrth ymateb i apêl oedd wedi cael ei chyflwyno gan y Cynghorydd Marc Jones, dywedodd y barnwr, Rt. Hon. Lord Justice Lewison ei fod yn “fodlon am y rhesymau a nodir yn Sail yr Apêl, fod gan yr apêl arfaethedig obaith gwirioneddol o lwyddo ac yn codi pwyntiau pwysig o ran egwyddor”.

Wrth siarad â’r Wrexham Leader, dywedodd Marc Jones fod “dyfarniad y barnwr i alluogi’r achos i fynd yn ei flaen yn ddatblygiad sylwedddol iawn”.

“Mae’n cydnabod fod yna ddiddordeb cyhoeddus sylweddol mewn cynghorwyr yn cael eu gorfodi, gyda bygythiad o garchar neu ddirwyon, i fabwysiadu cynllun wnaethon nhw bleidleisio yn ei erbyn ddwywaith, gan eu bod yn credu nad yw o fudd i’r bobol maen nhw’n eu cynrychioli.”

‘Gwallgof’

Wrth siarad â golwg360, dywed Carrie Harper fod yr holl broses o greu a mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol wedi bod “wallgof”, ac mae’n beirniadu Llywodraeth Cymru am adael i’r sefyllfa gyrraedd y pwynt yma.

“Mae gennym hawl ddemocrataidd i allu cynrychioli pobol Wrecsam, ac felly yr hawl i allu pleidleisio yn erbyn rhywbeth rydym yn gwybod sydd yn mynd i wneud niwed i’r dref,” meddai.

“A phan ydych chi wir yn edrych ar y cynllun, dydy’r fformiwla mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio i gyfrifo twf tai yn y dyfodol ddim yn cynnwys fforddiadwyedd, sydd yn wallgof ynddo’i hun.”

Dywed ymhellach ei bod yn “arwyddocaol” iawn fod y barnwr wedi “mynd ymhellach na’r disgwyl” wrth ddweud fod gan yr apêl siawns o ennill.

Er mwyn gallu lansio apêl, mae cronfeydd wedi’u sefydlu i godi arian i dalu costau cyfreithiol.

Hyd yn hyn, mae 81 cyfrannwr wedi codi cyfanswm o £8,845 drwy wefan Crowd Justice.

Yn ôl Carrie Harper, mae hyn yn dangos faint o “ddiddordeb” sydd gan bobol leol yn yr hyn sydd wedi digwydd, a hynny o amryw o bleidiau.

“Mewn gwirionedd, [drwy’r apêl] mae Marc Jones yn cynrychioli pob cynghorydd sydd wedi pleidlesio yn erbyn y Cynllun Datblygu Lleol.

“Ac mae yna nifer fawr o’r cynghorwyr yma, nid dim ond Plaid Cymru, oherwydd mae aelodau annibynnol, efallai hyd yn oed Torïaid, wedi cyfrannu.”

Yn nhermau’r camau nesaf, mae’r grŵp sydd wedi apelio yn gweithio ar gael ataliad technegol ar unrhyw gais gynllunio nes bod achos yn cael ei glywed.

Trigolion wedi syfrdanu

Mewn cyfarfod cyhoeddus ddoe (dydd Mercher, Mai 15), fe wnaeth nifer o drigolion o gymunedau sy’n agos i’r cynlluniau leisio pryderon am y cynlluniau i adeiladu 1,680 o dai ger ardaloedd Parc Caia ac Acton.

“Mae pobol wedi syfrdanu ynghylch maint yr hyn sy’n cael ei gynnig, oherwydd mae’n anferth; nid dim ond cwpwl o gannoedd o dai, ond 1,680,” meddai Carrie Harper wedyn.

“Dydy pobol ddim yn gallu mynychu deintydd, dydyn nhw ddim yn gallu cael mewn i’r doctoriaid lleol, felly mae’n amlwg pam fod cynifer o bobol yn pryderu.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Oherwydd ymgyfreitha parhaus ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam, nid yw’n briodol i Lywodraeth Cymru wneud sylw ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.