Mae cynlluniau i newid treth y cyngor am gael eu gohirio tan 2028, ar ôl etholiadau nesa’r Senedd, yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Cymru.
Daeth cadarnhad o’r penderfyniad i ohirio gan Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru.
O dan y cynlluniau, sy’n anelu i wneud treth y cyngor yn decach, gallai bandiau newid a byddai 1.5m o gartrefi yng Nghymru’n cael eu hailwerthuso am y tro cyntaf ers 2003.
Tra byddai biliau 70% o bobol yn cwympo neu’n aros yr un fath, a fyddai’r cyfanswm fyddai’n cael ei godi ddim yn newid, gallai 30% o aelwydydd – neu oddeutu 450,000 o gartrefi – wynebu trethi uwch.
Mewn datganiad gweinidogol ysgrifenedig, dywedodd Rebecca Evans fod ymatebion i ymgynghoriad yn dangos awydd clir am ddiwygio, ond dros gyfnod hirach o amser.
‘Big Brother’
Dywed Rebecca Evans y bydd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol yn cael ei ddiwygio i gynnwys ailwerthusiadau bob pum mlynedd o 2028, er mwyn cadw treth y cyngor yn deg ac yn gallu ymateb i amgylchiadau economaidd.
Yn ystod cwestiynau cyllid heddiw (dydd Mercher, Mai 15), dywedodd wrth y Senedd y bydd ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal yn nes at 2028 ynghylch graddau’r diwygiadau.
“Dw i’n cydnabod y pryderon ynghylch yr effaith ar aelwydydd yn ystod yr argyfwng costau byw, ac roedd hynny’n ganolog iawn i’n hystyriaethau wrth i ni edrych ar gyflymdra diwygio,” meddai.
Dywedodd wrth y siambr y bydd ychwanegu bandiau treth y cyngor ar y lefel uchaf – a band ar y lefel isaf i helpu pobol yn yr eiddo lleiaf drud – yn rhan o’r feddylfryd.
Cyfeiriodd Peter Fox at adroddiadau yn y Daily Telegraph y bydd lloeren yn cael ei defnyddio i asesu newidiadau i werth eiddo yng Nghmru, gan gymharu’r sefyllfa â 1984 gan George Orwell.
‘Gafael mewn perlau’
Fe wnaeth Rebecca Evans ddisgrifio’r erthygl fel un “wael, a bod yn garedig”, gan dynnu sylw at y ffaith fod Asiantaeth y Swyddfa Werthuso’n cwblhau gwerthusiadau’n annibynnol o Lywodraeth Cymru.
“Dw i jyst ddim yn deall y gafael mewn perlau hyn, oherwydd rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus, a’r dechnoleg ddiweddaraf, i sicrhau’n gywir fod aelwydydd yn talu’r dreth gyngor gywir,” meddai.
Awgrymodd Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai beirniaid yn dweud bod diwygiadau i’r dreth gyngor a ffermio’n cael eu gohirio ag un llygad ar etholiadau’r Senedd yn 2026.
Rhybuddiodd yr Aelod o’r Senedd dros Fynwy y gallai’r diwygiadau gael “effaith enfawr” ar deuluoedd ariannol dlawd sy’n byw mewn tai gwledig mwy o faint ac sydd efallai angen eu hatgyweirio.
“Mae’r rheiny’n bobol fregus iawn sy’n gofidio,” meddai.
Gostyngiadau
Wrth groesawu ymrwymiad i ostyngiad ar dreth y cyngor o 25% i berson sengl, cododd Peter Fox bryderon am bwerau arfaethedig i gynghorau ddileu neu leihau gostyngiadau ar dreth y cyngor.
Fe wnaeth Rebecca Evans gydnabod y gall fod rhai pobol sy’n byw mewn eiddo gwerth uchel fod ar incwm isel.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru’n cwblhau adolygiad o 53 o wahanol gategorïau o ostyngiadau ac eithriadau, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n addas ar gyfer eu pwrpas.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid wrth y siambr y bydd Llywodraeth Cymru’n edrych ar grwpiau eraill ddylai elwa ar ostyngiad neu eithriad o ran treth y cyngor.
Wrth gael ei holi am gronfa bontio i gefnogi pobol, roedd Rebecca Evans yn cydnabod consensws fod trefniadau pontio wedi dod yn rhy hwyr ar ôl yr ailwerthusiad blaenorol.
‘Corwynt perffaith’
Fe wnaeth Vikki Howells, aelod o feinciau cefn Llafur sy’n cynrychioli Cwm Cynon, bryderon etholwyr am fwlch rhy hir rhwng ailwerthusiadau ar gyfer cyfraddau busnes.
Cadarnhaodd Rebecca Evans y byddai ailwerthusiadau bob tair blynedd ar gyfer cyfraddau busnes yn cael eu cyflwyno gan y Bil Cyllid Llywodraeth Leol.
“Rydyn ni’n credu bod tair blynedd yn rhoi’r cydbwysedd hwnnw rhwng sicrwydd i fusnesau, ond hefyd yn adlewyrchu amodau mwy diweddar a chyfredol y farchnad,” meddai.
Rhybuddiodd Altaf Hussain, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, fod busnesau lletygarwch yn wynebu corwynt perffaith, gan alw am eithriad hyd nes bod system decach yn cael ei chyflwyno.
Dywedodd Rebecca Evans na allai hi eithrio sector sylweddol o economi Cymru o gyfraddau busnes gan fod hynny’n darparu arian hanfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.