Mae Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, wedi dymuno gwellhad buan i Robert Fico, Prif Weinidog Slofacia, sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu.

Cafodd ei saethu yn ei ben a’i frest wrth gyfarch torfeydd o bobol tu allan i ganolfan ddiwylliannol yn nhref Handlova, yn dilyn cyfarfod llywodraethol.

Cafodd dryll ei danio sawl gwaith, ac fe wnaeth swyddogion diogelwch ei helpu i mewn i gar, ond mae e bellach wedi’i gludo i’r ysbyty.

Dywed ei staff y bydd yr oriau nesa’n dyngedfennol i’r gŵr 59 oed oedd wedi ailgydio yn y swydd ar ôl etholiadau mis Medi y llynedd.

Mae unigolyn wedi’i arestio ac yn cael ei holi yn y ddalfa.

Newyddion dychrynllyd.

‘Sioc’

Mae Vaughan Gething wedi mynegi ei sioc yn dilyn y digwyddiad.

“Mae fy meddyliau gyda theulu’r prif weinidog ar yr adeg bryderus hon,” meddai.

“Dymunaf gwellhad buan a llawn [iddo].”