Mae prifathro o Wynedd wedi’i gael yn euog o droseddau rhyw yn erbyn pedwar o blant.

Lai na phum awr gymerodd hi i’r rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug ganfod Neil Foden, 66, yn euog ar ddiwedd achos 17 diwrnod.

Roedd yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes cyn ei wahardd yn 2023.

Cafwyd e’n euog o 19 cyhuddiad allan o ugain, gan gynnwys deuddeg cyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn, a throseddau yn erbyn plant oedd yn ei ymddiriedaeth.

Mae’n wynebu cyfnod sylweddol o garchar pan fydd yn cael ei ddedfrydu.

Yn ôl y barnwr, fe ddefnyddiodd ei bersonoliaeth “drahaus a rheolaethol” i’w fantais ei hun, gan “anwybyddu pryder gwirioneddol” pobol eraill.

Roedd wedi gwadu 13 o gyhuddiadau o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn a dau gyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn pan oedd e mewn safle o ymddiriedaeth.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn yr un llys ar Orffennaf 1.

Roedd hefyd wedi gwadu cyhuddiadau o achosi neu annog gweithgaredd rhywiol â phlentyn, ceisio trefnu i gyflawni trosedd rhyw yn erbyn plentyn, cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, bod â lluniau anweddus o blentyn yn ei feddiant, ac ymosod ar blentyn.

Cyhuddiadau

Clywodd y llys fod Neil Foden wedi cyflawni gweithred rywiol gydag un ferch sawl gwaith wrth fynd â’r plentyn yn ei gar.

Dechreuodd e gam-drin y plentyn drwy ei chofleidio fis Ionawr y llynedd, ac roedd hi’n credu eu bod nhw mewn perthynas, gan dreulio mwy o amser gyda’i gilydd.

Anfonodd hi luniau ohoni ei hun ato dros WhatsApp dan ffugenw, ac fe geisiodd Neil Foden ddileu’r delweddau cyn i’r heddlu ei arestio.

Roedd rhai o’r negeseuon ganddo’n disgrifio gweithred rywiol roedd e am ei chyflawni gyda hi, ac roedd gan y plentyn ei grysau yn ei meddiant pan gafodd Foden ei arestio.

Roedd hi mewn “dryswch llwyr”, meddai, a’i “theimladau dros y lle i gyd”.

Roedd wedi cyffwrdd coes plentyn arall a phinsio’i chlun a rhoi ei law o dan ei dillad.

Ymosododd ar drydydd plentyn wrth roi ei law ar ei chluniau.

Roedd pedwerydd plentyn wedi honno iddo anadlu wrth ymyl ei gwddf a chyffwrdd â’i phen ôl o dan ei sgert.

Ond cafwyd e’n ddieuog o droseddau’n ymwneud â’r plentyn hwn.

Dechreuodd e gam-drin pumed plentyn yn 2019, gan fynd â’r plentyn hwn allan o Wynedd, cael rhyw â’r plentyn a threulio nosweithiau gyda’i gilydd mewn gwestai.

Dywedodd y plentyn hwn, ‘Plentyn E’, fod eu perthnas fel “unrhyw berthynas normal rhwng dau berson sydd mewn cariad â’i gilydd”.

Roedd lluniau o westy lle bu’r ddau yn aros ar ffôn y plentyn, a’i chofnodion banc yn dangos ei bod hi wedi defnyddio’i cherdyn debyd yno tra bod Neil Foden yn aros yno hefyd.

Tystiolaeth

Gwelodd y llys bâr o cyffion â DNA Plentyn E a Neil Foden arnyn nhw.

Roedd hi hefyd wedi rhoi benthyg £900 iddo tuag at waith atgyweirio’i ystafell ymolchi yn ei gartref.

Dywedodd y plentyn ei fod e wedi defnyddio gwregys lledr arni wrth iddyn nhw gael rhyw, ond dywedodd y diffynnydd yn ystod yr achos fod cyflwr meddygol arno’n ei atal rhag cael rhyw.

Roedd pryderon wedi’u mynegi am ei ymddygiad, a bu trafodaethau â Garem Jackson o Gyngor Gwynedd am y sefyllfa, a chafodd e air anffurfiol gyda Neil Foden gan roi cyngor iddo.

Doedd dim cofnod ar bapur o’r ymchwiliad – rhywbeth oedd yn “anghredadwy”, yn ôl y barnwr, ynghyd â’r ffaith iddo allu parhau i droseddu er bod cwyn yn ei erbyn.