Mae Hannah Blythyn, Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol Cymru, sydd hefyd yn Aelod Llafur o’r Senedd dros etholaeth Delyn,wedi’i diswyddo o Lywodraeth Cymru yn dilyn tystiolaeth ynghylch “datguddiadau diweddar i’r cyfryngau”.

Mae Hannah Blythyn yn gwadu ei bod wedi gwneud y datguddiad.

“Ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i fi yn ymwneud â datguddiadau diweddar i’r cyfryngau, rwy’n anffodus wedi dod i’r casgliad nad oes gen i ddewis ond gofyn i Hannah Blythyn adael y Llywodraeth,” meddai’r Prif Weinidog mewn datganiad.

“Hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith mae’r Aelod dros Delyn wedi’i arwain yn y Llywodraeth ers 2017, yn fwyaf nodedig ei harweinad ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru, yr adolygiad o’r gwasanaeth tân ac achub, a’n gwaith gwerthfawr gyda phartneriaid cymdeithasol.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn gallu cynnal hyder ymysg ein cydweithwyr o fewn y Llywodraeth, fel ein bod yn gallu gweithio fel un i wella bywydau pobol yng Nghymru.

“O ystyried doniau a phrofiad Hannah, dw i wedi bod yn glir fod yna lwybr yn ôl iddi gymryd swydd yn y Llywodraeth eto yn y dyfodol.

“Mae’r Llywodraeth wedi cynnig cefnogaeth barhaus i’r Aelod.”

Ymateb Hannah Blythyn

“Rwy’n syfrdanu ac yn drist efo beth sydd wedi digwydd heddiw,” meddai Hannah Blythyn ar X (Twitter).

“Dw i’n glir, ac wedi bod yn glir, nad ydw i erioed wedi datgelu unrhyw beth.

“Mae uniondeb yn bopeth o fewn gwleidyddiaeth, ac rwy’n cadw at hynny.”

“I blentyn o Gei Conna, mae’n fraint aruthrol i wasanaethu’r gymuned a’m lluniodd, heb sôn am fod wedi gwasanaethu yn llywodraeth fy ngwlad.

“Ni fyddaf yn ychwanegu at hyn ar hyn o bryd.”

Dydy hi ddim yn glir beth yw’r “datguddiad i’r cyfryngau” dan sylw, ond mae Vaughan Gething wedi bod o dan bwysau gan wrthwynebwyr ers i negeseuon rhwng gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod Covid gael eu datgelu.

‘Bron yn ddigynsail’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod “penderfyniadau Vaughan Gething yn ystod yr ymgyrch arweiynyddol yn dal i fyny â fe”.

“Wythnosau yn unig i mewn i’w gyfnod yn Brif Weinidog, mae Vaughan Gething wedi gorfod diswyddo rhywun o’i gabinet, sydd bron yn ddigynsail mewn hanes diweddar yng Nghymru,” meddai.

“Mae Vaughan Gething yn gorfod profi yn gyflym ei fod yn gallu llywodraethu Cymru, oherwydd fel mae’n sefyll mae’r Llywodraeth yn cael ei hymestyn i’r pwynt lle mae’n torri gan benderfyniadau mewnol.

“Nawr, mae [Hannah] Blythyn yn gorfod bod yn glir o le yn union mae’r negeseuon mae hi wedi’u datgelu wedi dod, ac os oes ganddi [y negeseuon] o hyd, pam nad yw hi wedi trosglwyddo’r negeseuon i’r ymholiad COVID.”

‘Tanseilio swyddfa Prif Weinidog Cymru’

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi ymateb yn chwyrn i’r newyddion, gan gyhuddo Vaughan Gething o “danseilio swyddfa Prif Weinidog Cymru”.

“Yn ei ddeufis cyntaf ers ei ethol, mae Vaughan Gething wedi tanseilio swyddfa Prif Weinidog Cymru a cholli ymddiriedaeth ei blaid a’r genedl,” meddai.

“Yn hytrach na manteisio ar y cyfle i roi Cymru ar lwybr tecach a mwy uchelgeisiol, mae cysgod o ddiffyg tryloywder a chwestiynau difrifol am ei grebwyll dros ei gyfnod fel Prif Weinidog.

“Mae diswyddo un o’i Weinidogion, a’r honiadau a’r gwrthgyhuddiadau sy’n ei amgylchynu, yn dangos eto mai blaenoriaeth y Prif Weinidog yw ei hunangadwraeth yn hytrach na budd y cyhoedd.

“Os dylai unrhyw un fod yn ystyried eu safbwynt, y Prif Weinidog ei hun ydyw.”