Mae aelod o staff carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o smyglo cyffuriau i mewn i’r safle.
Dyma’r pedwerydd tro mewn cyfnod o ddeufis i rywun gael eu harestio ar amheuaeth o smyglo eitemau i mewn i’r safle.
Fe fu naw marwolaeth sydyn yno ers Chwefror 27 hefyd, ond does dim cysylltiad rhwng y ddau ymchwiliad.
Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arestio dyn 36 oed o Ogledd Corneli, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd dyn 40 oed o Birmingham a dynes 34 oed o Benylan yng Nghaerdydd eu harestio ym mis Mawrth ar amheuaeth o gynllwynio i smyglo cyffuriau rheoledig a gwyngalchu arian, ac maen nhw wedi’u rhyddhau dan ymchwiliad.
Cafodd dyn 34 oed o Benylan ei arestio hefyd ar amheuaeth o fod â rhan mewn cyflenwi cyffuriau, ac mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.
Mae G4S, y cwmni diogelwch sy’n rhedeg y carchar, wedi cadarnhau bod unigolyn wedi’i arestio, gan ddweud eu bod nhw’n disgwyl y “safonau ymddygiad uchaf” gan eu staff ac yn “gweithredu’n gyflym” pan fydd amheuon o ddrwgweithredu.