Mae Heledd Fychan yn galw ar y Prif Weinidog Vaughan Gething i ateb cwestiynau am roddion a diswyddo Hannah Blythyn

Wrth siarad â golwg360, dywed Heledd Fychan fod y sefyllfa o fewn y Blaid Lafur yn y Senedd yn “smonach llwyr”, yn dilyn y newyddion bod Hannah Blythyn, yr Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol, wedi’i diswyddo o’r Llywodraeth, a bod £31,000 o arian gafodd ei roi i ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething gan bennaeth cwmni gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, yn cael ei dalu i’r Blaid Lafur.

Mae Hannah Blythyn hefyd wedi cael ei diswyddo o’r Cabinet, yn dilyn yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan Vaughan Gething fel “datguddiad i’r cyfryngau”.

“Mae o’n un o gyfres o bethau sydd wedi digwydd,” meddai Heledd Fychan.

“Rydym wedi gweld Hannah Blythyn yn gwadu hyn yn gyhoeddus ar y platfform X.

“Felly mae’n codi cwestiynau dros beth ydi’r gwirionedd fan hyn, beth sy’n mynd ymlaen, ac ar ba sail mae Vaughan Gething wedi cymryd y penderfyniad yma.

“Mae o’n allweddol bwysig ein bod yn cael tryloywder llwyr.”

Rhoddion

Mae’r cwestiynau mwyaf am y Prif Weinidog ynghylch rhoddion ariannol o £200,000 gafodd o gan gwmni Dauson Environmental, sydd yn euog o ddau drosedd amgylcheddol.

Mae Heledd Fychan yn galw ar y Prif Weinidog i dalu’r arian yn ôl i’r cwmni.

“Dwi’n meddwl y cwestiwn mawr ydi, pam mae Vaughan Gething wedi cymryd yr arian, a pham dydi o ddim wedi talu’r arian yn ôl.

“Mae’r ffaith ei fod o’n fodlon cymryd yr arian yn y lle cyntaf a ddim yn gweld problem efo’r peth yn ddigon i gwestiynu os mai fo yw’r person iawn i fod yn Brif Weinidog Cymru.”

Mae Vaughan Gething wedi cael ei feirniadu o fewn y Blaid Lafur hefyd, gyda nifer o aelodau, gan gynnwys Jeremy Miles, yn dweud na fydden nhw wedi derbyn yr arian.

Bythefnos yn ôl, mewn dadl ar roddion ariannol, galwodd yr Aelod Llafur Lee Waters ar y Prif Weinidog i “wneud y peth iawn” a rhoi’r £200,000 yn ôl.

Ond doedd Vaughan Gething ddim yn bresennol i ateb cwestiynau.

“Dw i’n gobeithio bod Vaughan Gething yn dechrau deall difrifoldeb y sefyllfa, oherwydd hyd yma, dydi o ddim wedi malio o gwbl,” meddai Heledd Fychan.

“Dydi o ddim i weld yn deall pam mae pobol yn poeni am hyn – doedd o ddim hyd yn oed yn gallu troi i fyny i gael ei gwestiynu.”

Mae Vaughan Gething yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le o ran rhoddion.

Dyfodol y Cytundeb Cydweithio

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru lai na saith mis i ffwrdd o ddiwedd y Cytundeb Cydweithio presennol, sydd wedi gweld polisïau fel prydau ysgol am ddim a diwygio’r Senedd yn cael eu gwireddu.

Dydy Heledd Fychan ddim yn credu bod y Cytundeb yn effeithio ar allu’r Blaid i graffu ar waith ac ymddygiad y Prif Weinidog.

“Dydi Plaid Cymru ddim yn cefnogi Vaughan Gething,” meddai.

“Dydi’r craffu ddim wedi gwanhau o ganlyniad i’r Cytundeb mewn unrhyw ffordd.

“Ar y cytundeb cydweithio, yn amlwg mi ydan ni wedi cyflawni lot ar feysydd polisi penodol.

“Ond dw i’n gobeithio bod pawb yn gwybod fod yna ddim amheuaeth ein bod yn dwyn Vaughan Gething i gyfrif, ac yn ei herio fo yn gyhoeddus iawn ar y mater yma.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i fi yn ymwneud â datguddiadau diweddar i’r cyfryngau, rwy’n anffodus wedi dod i’r casgliad nad oes gen i ddewis ond gofyn i Hannah Blythyn adael y Llywodraeth,” meddai’r Prif Weinidog mewn datganiad.

“Hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith mae’r Aelod dros Delyn wedi’i arwain yn y Llywodraeth ers 2017, yn fwyaf nodedig ei harweinad ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru, yr adolygiad o’r gwasanaeth tân ac achub, a’n gwaith gwerthfawr gyda phartneriaid cymdeithasol.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn gallu cynnal hyder ymysg ein cydweithwyr o fewn y Llywodraeth, fel ein bod yn gallu gweithio fel un i wella bywydau pobol yng Nghymru.

“O ystyried doniau a phrofiad Hannah, dw i wedi bod yn glir fod yna lwybr yn ôl iddi gymryd swydd yn y Llywodraeth eto yn y dyfodol.

“Mae’r Llywodraeth wedi cynnig cefnogaeth barhaus i’r Aelod.”

Hannah Blythyn wedi’i diswyddo o Lywodraeth Cymru ar ôl “datguddiad i’r cyfryngau”

Mae Vaughan Gething wedi cyhoeddi datganiad fore heddiw (dydd Iau, Mai 16), sydd wedi ennyn ymateb chwyrn

Cymru’n “haeddu gwell” gan Vaughan Gething

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod Vaughan Gething wedi cuddio’n fwriadol y ffaith iddo ddileu negeseuon rhyngddo fe a gweinidogion eraill

Veezu: Vaughan Gething dan y lach eto tros roddion gwleidyddol

Mae’r cwmni tacsis yn wynebu beirniadaeth yn sgil honiadau o amodau gwaith gwael a gwahaniaethu yn erbyn pobol ag anableddau