Mae enwau’r rhai fydd yn cael eu hurddo i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi cael eu cyhoeddi.
Ymhlith y rhai sy’n cael eu hurddo eleni mae’r cyflwynydd Gerallt Pennant, yr awdur Mike Parker, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Joseff Gnagbo a Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru.
Fe fydd y degau o enwau ar y rhestr yn cael eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd ddydd Llun, Awst 5 a dydd Gwener, Awst 9.
Caiff yr anrhydeddau eu rhoi i unigolion am eu cyfraniad arbennig i Gymru, yr iaith a chymunedau lleol ledled Cymru.
Mae’r rheiny sy’n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau neu weithgaredd bro neu’r genedl yn derbyn Urdd Derwydd – sef y Wisg Las – am eu gwasanaeth i’r genedl.
Bydd aelodau newydd yn cael eu hurddo i’r Wisg Werdd am eu cyfraniad i’r Celfyddydau hefyd.
Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd wedi llwyddo mewn cwrs gradd yn y Gymraeg, mewn Cerddoriaeth, neu unrhyw bwnc gafodd ei astudio yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd.
Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael eu hurddo â Gwisg Wen.
Gwisg Werdd
Jane Aaron, Aberystwyth
Anna ap Robert, Aberystwyth
Simon Chandler, Manceinion
Elgan Philip Davies, Bow Street, Aberystwyth
Owenna Davies, Ffostrasol a Cheredigion
Anne England, Aber-fan
Nerys Howell, Caerdydd
Angharad Lee, Tonyrefail
Elin Llywelyn Williams, Pont-y-clun
Helena Miguelez-Carballeira, Bangor
Mari Morgan, Llanelli a’r Unol Daleithiau
Catrin Rowlands, Abertawe
Derrick Rowlands, Pont-iets
Mike Parker, Kidderminster a Machynlleth
Shân Eleri Passmore, Caerdydd
Siwan Rosser, Caerdydd
Peter Spriggs, Arberth
Llinos Swain, Caerdydd
Meilyr Hedd Tomos, Abergwaun
Gareth Williams, Pontypridd
Siân Rhiannon Williams, Y Barri
Gwisg Las
Delyth Badder, Pontypridd
Carol Bell, Llundain
Jamie Bevan, Merthyr Tudful
Dafydd Trystan Davies, Caerdydd
Geraint Davies, Treherbert
Michelle Davies, Llangamarch
Joseff Gnagbo, Caerdydd
Margot Ann Phillips Griffith, Pont-iets a Wellington, Seland Newydd
Gill Griffiths, Pentyrch
Rosa Hunt, Pentre’r Eglwys
Awen Iorwerth, Y Rhondda
Gethin Lloyd James, Llanarthne
Theresa Mgadzah Jones, Caerdydd
David Lloyd-Jones, Pontypridd
Gerallt Pennant, Eifionydd
Ian Wyn Rees, Porth Tywyn
Rhuanedd Richards, Pontypridd
David Roberts, Caerffili
Elfed Roberts, Caerdydd
Elinor Snowsill, Pont-y-clun
Derec Stockley, Cefneithin
Hazel Thomas, Cwm-du, Crucywel
John Thomas, Abertawe
Meleri Tudur Thomas, Caernarfon
Noel Thomas, Gaerwen
Mark Vaughan, Llanedi, Pontarddulais
Megan Williams, talaith Efrog Newydd
Ynyr Williams, Trawsfynydd a Chaerdydd