Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Malachy Edwards, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffeithiol Greadigol gydag Y Delyn Aur.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Mae’n gofiant lle dw i’n ysgrifennu’n onest am brofiadau mawr yn fy mywyd fel geni a marw, ceisio am ddinasyddiaeth Ewropeaidd a fy mhrofiadau fel Cymro Du Cymraeg. Mae’n llyfr am hunaniaeth, perthyn a gwreiddiau ac ynddi dw i’n sgwennu am fy hunaniaeth hil-gymysg, aml-ddiwylliedig a chrefyddol wrth olrhain hanes fy nheulu yn Iwerddon a Barbados. Wnes i gychwyn y llyfr yn ôl yn nechrau 2019 a chafodd ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn yn Dachwedd 2023. Fe wnaeth yr artist Sïan Angharad o Ynys Môn lun y clawr trawiadol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Y sbardun wnaeth annog fi i ysgrifennu’r Delyn Aur oedd Brexit a fy ymgais i adennill fy ninasyddiaeth Ewropeaidd trwy hawlio dinasyddiaeth Wyddelig. Roedd Brexit yn golygu newid yn berthynas rhwng y Deyrnas Unedig / Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Yn yr un modd cafodd Brexit effaith ar berthynas Cymry efo Ewrop. Wrth imi fynd drwy’r proses o ymgeisio ar gyfer dinasyddiaeth wnes i fyfyrio ar fy hanes teuluol ac am gwestiynau i ymwneud â fy hunaniaeth fel Cymro Du Cymraeg o gefndir hil-gymysg ac amlddiwylliannol. Yn meddwl am gwestiwn hunaniaeth a pherthyn, daeth y syniad ar gyfer Y Delyn Aur i feddwl. Brexit oedd yr ysbrydoliaeth.

Sut brofiad oedd cofnodi’ch hanes?

Wnes i fwynhau gwneud gwaith ymchwil a chymryd yr amser i gyfarfod â theulu a’u holi am y gorffennol. Dw i’n teimlo imi gryfhau fy mherthynas efo ambell aelod o’r teulu drwy’r broses a chyfarfod perthnasau newydd – enwedig yn Iwerddon, rhai dw i o hyd yn cadw cysylltiad efo nhw. Roedd rhai penodau yn fwy hwyl i sgwennu amdanynt nac eraill, Hong Kong! O ran emosiwn, roedd ambell bennod yn anodd ysgrifennu, yn enwedig am gyfnod y pandemig (pennod 10). Er hynny dw i’n falch imi gofnodi fy hanes a rhannu yn gyhoeddus.

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?

Mae llawer o lyfrau wedi dylanwadu arnaf i. Fe wnaeth y gyfrol My Stuggle gan yr awdur o Norwy, Karl Ove Knausgård blannu hadyn o ran ysgrifennu darn o waith hunangofiannol. Yn y proses o ymchwilio’r Delyn Aur wnes i ddarllen yn eang a rhai o’r llyfrau sy’n sefyll allan fel dylanwadau ydy: Guto Dafydd, Ymbelydredd; Ffion Dafydd, Lloerganiadau; Ifor ap Glyn, Tra Bo Dau; Llŷr Gwyn Lewis, Rhyw Flodau Rhyfel a Hilary Mantel, Brining Up the Ghosts. Mae pob bywyd yn unigryw yn ei ffordd ond drwy ddarllen cofiannau pobl eraill, dwi wastad yn synnu gymaint sydd gennym yng nghyffredin. Mae’n dod â chysur bach imi, bod be bynnag dwi’n rannu yn fy sgwennu, y bydd rhywun arall wedi profi rhywbeth tebyg.

Gallwch ddarllen mwy am yr holl gyfrolau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, a phleidleisio dros eich ffefryn, yma:

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 14!