O ymgyrchu tros löwyr i arwain yr ymgyrch dros sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae’n bosib dadlau mai Aneurin Bevan yw gwleidydd mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig sydd heb fod yn Brif Weinidog.

Mae’r ddrama Nye, sydd wedi’i ysgrifennu gan Tim Price a’i chyfarwyddo gan Rufus Norris ar gyfer y National Theatre a Chanolfan y Mileniwm, yn mynd â’r prif gymeriad a’r gynulleidfa ar daith yn ôl drwy ei fywyd, gan gwrdd â nifer o’r cymeriadau amlycaf a mwyaf dylanwadol yn ei fywyd – ei wraig Jennie Lee, ei dad David, y gwas sifil Archie Lush, a’r gwleidyddion lu fu’n gydweithwyr iddo yn ystod ei yrfa yn San Steffan.

Ochr yn ochr â Michael Sheen (Aneurin Bevan), mae Sharon Small (Jennie Lee) a Rhodri Meilir (David Bevan) ymhlith y prif gast, a Mali O’Donnell yn rhan o’r ensemble a swing, ac fe fu’r tri yn siarad â golwg360.

Jennie Lee – y ddynes gref tu ôl i’w gŵr

Michael Sheen a Sharon Small yn y ddrama ‘Nye’

Yn ôl Sharon Small, roedd Jennie Lee yn “frygowthwr, yn bersonoliaeth anhygoel ac yn dipyn pellach i’r chwith” nag Aneurin Bevan.

Yn yr un modd ag y gwnaeth ei gŵr sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd, roedd hi’r un mor arloesol ym myd y celfyddydau ac addysg, gan arwain ar sefydlu’r Brifysgol Agored a’r Cyngor Celfyddydau yn Lloegr.

“Roedd hi’n wleidydd ddaeth i’r senedd a gwneud ei haraith gyntaf yn 24 oed, pan nad oedd gan fenywod y bleidlais hyd yn oed!” meddai Sharon Small wrth golwg360 am ymgeisydd y Blaid Lafur Annibynnol.

“Ychydig flynyddoedd yn unig roedd hi yno cyn iddi gael ei churo gan ymgeisydd Llafur go iawn. Yn ystod y cyfnod hwn y gwnaeth hi gwrdd â Nye Bevan.

“Roedd hi’n cael affêr â dyn priod, ond wnaeth hi gwrdd â Nye a phan fu farw ei chariad, daeth Nye yn glust ac yn ffrind iddi, ac fe wnaethon nhw briodi, felly symudodd e i mewn yn eithaf cyflym.

“Roedden nhw gyda’i gilydd am ugain a mwy o flynyddoedd, gan briodi.

“Daeth hi’n gefn mawr iddo fe o ran ei wleidyddiaeth, ac roedd hi’n gwybod ei fod e’n gallu gwneud hynny’n well na hi, fwy na thebyg am ei fod e’n ddyn yn un peth, ond roedd hi’n meddwl hefyd ei fod e’n wleidydd gwych ac yn sosialydd o fri.

“Cafodd hi dipyn o waeledd nerfau pan fu farw Nye, ac wedyn daeth Harold Wilson â hi yn ôl i’r senedd a’i gwneud hi’n Weinidog y Celfyddydau.

“Lluniodd hi’r Papur Gwyn cyntaf ar gyfer y celfyddydau ledled y wlad, gan deimlo na ddylai fod ar gyfer yr élit yn unig.

“Gwnaeth hi rywbeth tebyg ar gyfer addysg a’r celfyddydau ag y gwnaeth [Aneurin Bevan] ar gyfer iechyd, oherwydd sefydlodd hi’r Brifysgol Agored hefyd.

“Doedd hi ddim wedi gwneud pethau mawr hyd nes bod Nye eisoes wedi mynd; dyna pryd y gadawodd hi ei gwaddol ei hun.

“Roedd hi bob amser yn wleidydd gwych, ond roedd yr oes wedi newid ac roedd hi bellach yn gallu gwneud mwy drosti hi ei hun.

“Cafodd hi sicrwydd gan Harold Wilson, gan eu bod nhw’n ffrindiau, y byddai’n ei chefnogi hi ac y câi hi’r cyllid oedd ei angen er mwyn gwireddu’r newidiadau hyn.

“Roedd hi’n fwy sicr ohoni hi ei hun ar ôl gweld yr hyn oedd Nye wedi’i wneud a’i waddol.

“Dydych chi ddim wir yn gweld y gwleidydd yn y dehongliad yma, ond yn hytrach yr hyn roddodd hi’r gorau iddo oherwydd ei chariad, a’i haberth o ran ei gyrfa i’w gefnogi fe.”

Y tad a’r mab

Michael Sheen a Rhodri Meilir yn y ddrama ‘Nye’

Os oedd Jennie Lee wedi ei gefnogi’n oedolyn, roedd ei dad David yn allweddol yn ei fagwraeth ac wrth greu’r dyn ddaeth yn wleidydd sosialaidd yn nes ymlaen yn ei fywyd.

Dyn y Pethe oedd ei dad, oedd hefyd yn löwr, yn Eisteddfotwr ac yn ddarllenwr brwd.

Ond yn wahanol i’w fab, Rhyddfrydwr oedd e.

Cafodd e a’i wraig ddeg o blant, ond dim ond chwech oedd wedi byw i fod yn oedolion.

Mae’n un o bedwar cymeriad – ynghyd â chlaf yn yr ysbyty, Aelod Seneddol Torïaidd a chynghorydd – sy’n cael eu portreadu gan Rhodri Meilir yn y ddrama, a chawn weld ei fod e’n ddylanwadol ym mhenderfyniad ei fab, flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth, i fynd ati i sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Mi oedd ei iechyd o’n wael tua diwedd ei fywyd, a fuodd o farw o black lung oherwydd y gwaith roedd o’n ei wneud lawr yn y pyllau,” meddai wrth golwg360.

“Yn y ddrama, mae hynny’n ryw fath o ysgogiad i Aneurin efo’i gôl o sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd.

“Roedd o wedi marw tua 1925, a doedd y Gwasanaeth Iechyd ddim wedi cael ei sefydlu tan 1948, ond dw i’n meddwl achos bod Aneurin wedi gweld pobol yn dioddef gyda’u hiechyd a fod dim ffordd i’r wlad helpu pobol gyda’u hiechyd oherwydd tlodi a chostau byw a chael meddyginiaeth, roedd hynny wedi effeithio ar blentyndod Aneurin Bevan.

“Roedd y pyllau glo yn flaenllaw iawn ym magwraeth Aneurin Bevan a’i gyfoedion yr adeg hynny.

“Mae yna ryw fath o gyferbyniad rhwng y frwydr i dyllu a darganfod glo, efo brwydr a llwyddiannau bywyd.

“Dim ond unwaith rydan ni’n cyffwrdd â’r pyllau glo yn y ddrama, sy’n dangos gwahanol gyfnodau ym mywyd Aneurin Bevan, o’r dechrau i’r diwedd.

“Oherwydd bod gan Aneurin gymaint o feddwl o’i dad, mae yna agosatrwydd yna.

“Mae hynny’n eithaf pwysig. A hefyd efo’i chwaer, Arianwen, achos mae hi’n ymddangos yn aml iawn yn ystod y ddrama.”

Ensemble

Cast y ddrama ‘Nye’

Yn ôl Mali O’Donnell sy’n rhan o’r ensemble a swing, ensemble yw’r ddrama hon sy’n dibynnu ar gydweithio rhwng aelodau’r cast.

A hithau’n rhan o’r ensemble, rhan o’i rôl yw bod yn barod i gamu ar y llwyfan dros actorion eraill pe bai angen.

“Mae’n lot o waith, ond yn lot o hwyl hefyd!” meddai wrth golwg360.

“Mae’n rhaid i fi ddysgu pump neu chwech ‘trac’ (rhan) arall.

“Fi’n gorfod dysgu lle mae pawb yn sefyll, geiriau pawb… Mae gyda ni lot o lifts yn sioe, felly fi’n dysgu pa ran o’r corff maen nhw’n dal fel bo fi’n gallu slotio mewn a gwneud popeth mor seemless â fi’n gallu.

“Mae’r National a’r WMC wedi bod yn grêt.

“Ni’n cael fideos o’r perfformiad, felly fi ac Oliver Llewellyn Jenkins, y swing arall, yn cael edrych yn ôl ar stwff a gweld y pethau dydyn ni ddim fel arfer yn cael gweld ar y llwyfan pan ydyn ni’n gwneud ein tracs ni.

“Mae’n grêt, ond mae’n galed! Mae e’n tricky.

“O ran brain space, mae e’n eitha’ galed.

“I rywun sy’n dod mewn i actio neu theatr, mae’n brofiad arbennig i fynd, ‘Fi ddim yn gwybod beth sy’n digwydd, ond fi’n gorfod trystio’r cast sydd o gwmpas fi’.

“Mae’r cast yn amazing a hollol lyfli, a dyn ni’n gallu dibynnu arnyn nhw lot.

“Mae’n sioe ensemble gydag actorion amazing fel Michael Sheen, Tony Jayawardena, Sharon Small a Roger Evans, sef y rhai sy’n chwarae’r prif gymeriadau.

“Ond mae’n bendant yn sioe ensemble gyda phawb arall yn cefnogi o’r tu ôl.”

  • Mae Nye yn cael ei llwyfannu yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd tan Fehefin 1