Mae undeb Equity wedi pasio cynnig brys i “gynnig pa bynnag gymorth sydd ei angen” i’r ymgyrch i atal toriadau a cholli swyddi yng nghorws Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn sgil diffyg arian, mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cynnig cwtogi cytundebau gwaith llawn amser aelodau eu corws i 45 wythnos y flwyddyn, gydag amcangyfrif o doriad cyflog o ryw 15% y flwyddyn.
Maen nhw hefyd yn bwriadu gwneud y corws yn llai, ac mae Equity yn rhybuddio y byddai hynny’n arwain at broses o ddiswyddiadau gorfodol.
Yn eu cyfarfod blynyddol yn Birmingham, cafodd y cynnig i roi cymorth ei basio ac fe wnaeth Equity ddweud eto na fyddan nhw’n derbyn diswyddiadau gorfodol, nac awydd Opera Cenedlaethol Cymru i wneud cytundebau llawn amser yn rhai mwy hyblyg.
Yn ôl Opera Cenedlaethol Cymru, mae’n rhaid iddyn nhw wneud newidiadau er mwyn sicrhau bod y cwmni’n dal yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol.
“Flwyddyn ar ôl cynhadledd 2023, rydyn ni’n cydsefyll yn erbyn trafferthion ein haelodau sy’n gweithio yn yr opera,” meddai Hywel Morgan, cynghorydd Equity wnaeth gyflwyno’r cynnig.
“Y tro hwn, mae gennym ni ymosodiad ar dermau ac amodau aelodau o Opera Cenedlaethol Cymru, yn sgil toriadau i’w cyllid gan Arts Council England a Chyngor Celfyddydau Cymru.
“Mae yna fwlch sylweddol rhwng barn y gweithlu a barn y cyllidwyr ynglŷn â phwy yw cynulleidfa’r opera.
“Rydyn ni’n gwybod y dylai’r opera fod i bawb, fel celfyddyd ac fel dewis gyrfa gynaliadwy.
“Fel dywed y cyllid, rydyn ni eisiau gyrru neges glir iddyn nhw’n dangos cryfder y cydsefyll yn y gynhadledd.”
‘Newidiadau i sicrhau cynaliadwyedd ariannol’
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru eu bod nhw’n gorfod gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod y cwmni’n dal yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol.
“Rydym yn cynllunio i roi model cyflawni newydd ar waith o’n tymor 2025/2026 ymlaen, er mwyn cynnal ein gweithgarwch a’n heffaith ar y llwyfan ac oddi arno, gan sicrhau yr un pryd ein bod yn gweithredu mor effeithlon â phosib o fewn yr adnoddau sydd ar gael,” meddai.
“Mae maint y toriadau’n golygu ein bod ni wedi gorfod cymryd camau pellach er mwyn gwneud arbedion.
“Yn ogystal â’r newidiadau a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar ynghylch taith 2024/2025, rydym wedi agor ffenestr diswyddo gwirfoddol ar gyfer ein cydweithwyr sy’n cyflawni swyddi nad ydynt yn rhai perfformio, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau ynghylch ail-negodi contractau gyda’n Cerddorfa a’n Corws er mwyn arbed costau.
“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gynorthwyo cydweithwyr drwy’r hyn rydym yn gwybod sy’n broses anodd, ond yn anffodus yn un anochel oherwydd ein sefyllfa ariannol a’r arbedion y mae angen i ni eu gwneud.
“Mae WNO yn cynrychioli Cymru ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
“Mae hefyd yn creu a chyflwyno prosiectau sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau yn y gymuned.
“Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein dyfodol hirdymor fel cwmni opera cenedlaethol Cymru.”