Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Jane Aaron, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffeithiol Greadigol gydag Cranogwen.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda
Cofiant yw’r gyfrol hon o fywyd a gwaith Cranogwen (Sarah Jane Rees, 1839-1916), a lwyddodd yng nghanol oes Fictoria i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig ac arweinydd mudiad dirwest. Yn ystod yr adeg honno, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol: yn hytrach, y cartref oedd eu lle penodol a magu teulu oedd eu pwrpas. Ond torrodd Cranogwen trwy’r holl rwystrau, a thrwy ei hesiampl agorodd llwyfannau ei gwlad ar gyfer to newydd o awduresau a siaradwyr cyhoeddus benywaidd. Trwy ddilyn ei thrywydd yn fanwl, datgelir yma pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry’i hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei gyrfa gynnar fel morwr ac ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol? Pam penderfynu ei sgrifennu?
Oherwydd i Simon Brooks, golygydd y gyfres Dawn Dweud, ofyn i mi wneud.
Pa mor bwysig ydi hi fod cofnod manwl o fywyd Cranogwen yn bodoli?
Mae hanes Cranogwen yn sylfaenol i hanes merched Cymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif waddol ei gwaith oedd ei dylanwad blaengar ar ferched eraill, yn enwedig ar gychwyn ei gyrfa gyhoeddus pan na fyddai’r mwyafrif o’i chynulleidfa erioed o’r blaen wedi gweld a chlywed menyw’n siarad o lwyfannau cyhoeddus eu cymunedau. Nes ymlaen, fel golygydd Y Frythones, llwyddodd i ddenu lliaws o ferched i ddyfod ‘allan o’u hogofau’ a dechrau ar yrfaoedd fel awduron. Fe fyddai hanes merched Cymru wedi bod yn dra gwahanol hebddi ac mae’n bwysig i ni wybod ein hanes er mwyn dod i adnabod ein hunain yn llawn.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Y llyfrau a ddylanwadodd fwyaf arnaf fel awdur y gyfrol Cranogwen oedd, yn gyntaf, y llyfrau a ddarllenais yn yr 1970au a’m gwnaeth yn ffeminydd, llyfrau fel The Second Sex gan Simone de Beauvoir a The Feminine Mystique gan Betty Friedan. Rhaid nodi hefyd dylanwad y llyfrau a ddarllenais yn yr 1980au a wnaeth i mi benderfynu bod yn rhaid dod nôl i Gymru a’r Gymraeg, llyfrau fel nofelau Angharad Tomos, Hen Fyd Hurt ac Yma o Hyd, a cherddi Menna Elfyn yn ei chasgliadau cynnar, Stafelloedd Aros, Tro’r Haul Arno a Mynd Lawr i’r Nefoedd. Wedyn, ar ddiwedd yr 1980au, wrth bori mewn siop lyfrau ail-law, deuthum ar draws cyfrol o’r Frythones, y cylchgrawn a olygwyd gan Cranogwen yn yr 1880au, a dyna ddechrau ar fy niddordeb ynddi hi a’i gwaith.