Mae mwy nag erioed wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn yr wythnos nesaf.

Bydd yr ŵyl ym Meifod yn dechrau ymhen wythnos, ac mae disgwyl i 100,454 o blant gystadlu.

Dyma’r tro cyntaf yn hanes y mudiad i’r ffigwr gyrraedd dros 100,000 ac yn ôl Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau gydag Urdd Gobaith Cymru, mae’n “arwydd o sut mae’r ŵyl wedi datblygu a thyfu dros y blynyddoedd”.

Mae datblygiadau i’r ŵyl eleni’n cynnwys gweithio gyda phum curadur ifanc i sicrhau bod arlwy gŵyl Triban – sy’n cynnwys artistiaid fel Bwncath, Eden a Chowbois Rhos Botwnnog – yn gynhwysol a pherthnasol i bobol ifanc.

Yn ogystal ag ardal ddigidol newydd, mae llwyfan newydd ‘Sa Neb Fel Ti yn gyfle i bawb ddangos eu doniau heb orfod cystadlu.

“Mae hi’n hynod o gyffrous gweld wythnos Eisteddfod yr Urdd Maldwyn bron â chyrraedd ac yn wych gweld bod cymaint o frwdfrydedd wedi bod ar y cystadlu eleni,” meddai Llio Maddocks.

“Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni’n denu cynifer o gystadleuwyr i berfformio yn ogystal â chynnig profiadau celfyddydol ar y maes i’n holl ymwelwyr.

“Diolchwn i Gyngor Sir Powys am y cydweithio agos i sicrhau llwyddiant yr ŵyl.

“Mae’r Eisteddfod yn cynnig rhywbeth i bawb; o’r cystadlu traddodiadol i gelf, crefft, colur a choginio.

“Ac mae llawer o ardaloedd ar y maes i ymlacio ac i fwynhau fel y pentref bwyd, y ffair, ardal chwaraeon, yr Arddorfa a llwyfannau Gŵyl Triban ddiwedd yr wythnos.

“Dewch draw i Faldwyn i weld diwylliant a chelfyddydau Cymru ar eu gorau.”

‘Bwrlwm a brwdfrydedd’

Datblygiad newydd arall eleni yw y bydd gwaith buddugol y prif lenorion ar gael yn syth ar ôl y seremonïau.

Mewn cydweithrediad â Chyhoeddiadau’r Stamp, os bydd teilyngdod, bydd gwaith buddugol y Fedal Ddrama, y Gadair a’r Goron yn cael eu cyhoeddi mewn pamffled fydd ar gael yn syth wedi’r defodau dyddiol.

“Mae hi’n 36 mlynedd ers y tro diwethaf i Eisteddfod yr Urdd ddod i Faldwyn a dw i mor falch o weld Eisteddfod Maldwyn 2024 yn cyrraedd o’r diwedd,” meddai Bedwyr Fychan, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

“Mae’r bwrlwm a’r brwdfrydedd wedi bod yn magu momentwm dros y misoedd diwethaf ar draws y sir a’r ymdrech i gasglu arian wedi bod yn arbennig.

“Mae’n wych fod mwy o blant a phobol ifanc Maldwyn wedi cystadlu yn yr Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth nag erioed o’r blaen, a mwy o gystadleuwyr eleni nag yn unrhyw ranbarth arall yng Nghymru at hynny.

“Mae’r cyfleoedd y mae’r Urdd yn eu cynnig i fagu hyder a meithrin sgiliau ein plant a’n pobol ifanc, mewn pob fath o feysydd, yn aruthrol.

“A dyma sydd wedi ein cymell ni, y gwirfoddolwyr – i roi’r cyfleoedd yma i’n hieuenctid ni, a bod yr Urdd fel mudiad yn ffynnu yma ym Maldwyn ac ym mhob rhan o Gymru, ar gyfer ieuenctid y dyfodol.”

Mae newid i drefn y prif seremonïau eleni, gyda phob seremoni yn cael ei chynnal ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn am 2.30yp, yn y drefn ganlynol:

  • Dydd Llun: Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a’r Fedal Gelf
  • Dydd Mawrth: Y Fedal Ddrama
  • Dydd Mercher: Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones
  • Dydd Iau: Y Gadair
  • Dydd Gwener: Y Goron
  • Dydd Sadwrn: Y Fedal Gyfansoddi (2yp)