Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Gruffudd Owen, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Barddoniaeth gyda Mymryn Rhyddid.


Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda

Mymryn Rhyddid ydi fy ail gyfrol o farddoniaeth. Cafodd yr holl gerddi eu llunio rhwng 2016 a 2023, cyfnod prysur i mi’n bersonol am i mi ddod yn dad (ddwywaith), ac wrth gwrs mi roedd hwn hefyd yn gyfnod cythryblus Brexit, Trump a Covid ac maen nhw yn taflu eu cysgod dros y cerddi. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys ‘Porth’ awdl fuddugol Eisteddfod Caerdydd 2018, sy’n trafod perthynas anesmwyth un Cymro efo’i ffôn symudol.

Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfrol?

Un o’r rhesymau roeddwn i eisiau llunio’r gyfrol oedd bod ein teulu ni wedi bod drwy gyfnod anodd yn y blynyddoedd diwethaf ers i ni sylweddoli bod ein mab hynaf yn awtistig a gydag anghenion dysgu dwys. Roedd ysgrifennu cerddi am hynny yn helpu i mi brosesu emosiynau go amrwd. Dwi hefyd yn gobeithio bod y cerddi hynny yn o werth i bobol mewn sefyllfaoedd tebyg, ac yn helpu i bobol werthfawrogi nad ydi profiadau pawb o rianta yr un fath.

Oes yna neges y gyfrol?

Dwi’n gobeithio fod y gyfrol yn deud rhywbeth am fod yn rhiant, bod yn Gymro, am alar, am farwolaeth Duw, am berthyn ac am y deuoliaethau a’r cyfaddawdu sy’n rhan annatod o’n bywydau ni gyd. Dwi hefyd yn gobeithio bod ’na ddigon o amrywiaeth o ran testun a chywair bod ‘na rhywbeth i bawb ynddi. Er bod yna gerddi a themâu dwys yma, dwi’n credu ei bod hi’n gyfrol obeithiol yn y bôn. (Ac mae ‘na ambell i jôc yno’n rhywle, mae’n siŵr!)

Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur/bardd?

Gormod i’w rhestru! Ond un gyfres dwi’n eithriadol o falch sy’n bodoli ydi ‘Tonfedd Heddiw’ – sef cyfres Barddas sy’n rhoi llwyfan i feirdd sy’n cyhoeddi eu cyfrolau cyntaf. Dwi’n falch o ddeud bod y gyfres bellach yn mynd ers deng mlynedd a bod dau o feirdd gyhoeddodd eu cyfrolau cyntaf gyda’r gyfres honno ar restr fer y  categori barddoniaeth leni! Mae bod yn rhan o genedl sy’n rhoi llwyfan i feirdd ifanc rannu eu gwaith, (ac mae hyn yn wir am weisg a sefydliadau eraill hefyd) wedi bod yn ddylanwad enfawr arna i. A rŵan mod i ddim yn fardd ifanc addawol mwyach, (eithr yn fardd canol oed anaddawol), dwi’n awyddus i bwysleisio’r ddyled honno. Da ni’n rhan o ddiwylliant bach rhyfedd a rhyfeddol, a dwi’n eithriadol o falch o gael perthyn i’r rhyfeddod hwnnw.

Pleidlais Barn y Bobl: Llyfr y Flwyddyn 2024

Pleidleisiwch dros eich hoff gyfrol – y bleidlais yn cau ar Fehefin 14!