Dychwelodd Gŵyl Fach y Fro i Ynys y Barri ddydd Sadwrn (Mai 18), gydag artistiaid fel Gwcci, Fleur De Lys, Lowri Evans a Brigyn yn diddanu’r dorf ar lan y môr.
Yn ogystal â pherfformiadau gan artistiaid adnabyddus, cafodd nifer o brosiectau cymunedol eu trefnu fel rhan o’r ŵyl.
Dros y misoedd diwethaf, mae Menter Iaith Bro Morgannwg wedi bod yn trefnu amrywiaeth o brosiectau gyda chymunedau ac ysgolion ar draws yr ardal, er mwyn galluogi plant, pobol ifanc a’r gymuned ehangach i fod yn rhan o’r ŵyl mewn amrywiol ffyrdd.
Ynghyd â hynny, roedd gweithgareddau chwaraeon, crefftwyr, stondinau bwyd lleol a gweithgareddau i’r plant wedi cael eu cynnal ar y traeth.
Dyma ddetholiad o luniau gan Fenter Bro Morgannwg…