Mae disgwyl i filoedd o bobl heidio i Ŵyl Gaws Caerffili dros y penwythnos (dydd Sadwrn, Awst 31 a dydd Sul, Medi 1).

Mae’r trefnwyr yn addo digwyddiad hyd yn oed yn fwy eleni gyda neuaddau bwyd, stondinau, ffair, sesiynau crefft a nifer o leoliadau cerddoriaeth fyw yng nghanol y dref.

Bydd nifer o stondinau bwyd a diod yng Ngŵyl Gaws Caerffili

Bydd Ras Gaws Caerffili hefyd yn cael ei chynnal, lle mae timau o bedwar, gyda’u holwynion o gaws, yn ceisio bod y cyntaf i gyrraedd Castell Caerffili i ennill gwobr o £100. Mae mynediad i’r ras am ddim.

Bydd y Ras Gaws hefyd yn cael ei chynnal yn ystod Gŵyl Gaws Caerffili

Mae’r Ŵyl Gaws – Caws Mawr yn y gorffennol – wedi rhoi Caerffili ar y map ac yn hwb mawr i fusnesau’r dref.

Bydd yn cael ei chynnal heddiw (dydd Sadwrn, Awst 31) rhwng 9yb-8yh a fory (dydd Sul, Medi 1) rhwng 9yb-5yp.