Mae mwyafrif helaeth o bobol fu’n pleidleisio yn ein pôl piniwn ar dudalennau X (Twitter gynt) ac Instagram golwg360 o blaid ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Mae awgrym y byddai unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i leoliadau awyr agored yn berthnasol i Gymru hefyd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i’r estyniad.

Er bod maes iechyd wedi’i ddatganoli i Gymru, roedd Llywodraeth Cymru eisoes yn bwriadu rhoi Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Bil Tybaco a Fêps oedd yn cael ei chyflwyno cyn i’r cyfnod seneddol diwethaf ddod i ben gydag etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.

Bryd hynny, daeth y Blaid Lafur i rym ar draul y Ceidwadwyr, ac mae manylion wedi’u cyhoeddi ynghylch bwriad Syr Keir Starmer i ymestyn y gwaharddiad ymhellach.

Wrth ddatgan y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law, dywedodd mai’r “man cychwyn yw atgoffa pawb fod dros 80,000 o bobol yn colli eu bywydau bob blwyddyn oherwydd ysmygu”.

“Mae’n farwolaeth mae modd ei hosgoi, mae’n fwrn enfawr ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac wrth gwrs mae’n fwrn enfawr ar drethdalwyr,” meddai.

“Felly ydyn, rydyn ni’n mynd i wneud penderfyniadau yn y gofod hwn, bydd rhagor o fanylion yn cael eu datgelu, ond dyma gyfres o farwolaethau mae modd eu hosgoi ac mae’n rhaid i ni gymryd camau i leihau’r baich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a threthdalwyr.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedden nhw’n gefnogol o’r Bil Tybaco a Fêps gwreiddiol, ac maen nhw’n gobeithio gweld y Bil yn cael ei gryfhau yn ddiweddarach eleni.

Pôl piniwn golwg360

Yn ein pôl piniwn, fe wnaethon ni ofyn a ddylai’r llywodraeth ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus.

Byddai hyn yn cynnwys mannau awyr agored megis tu allan i dafarnau a chlybiau nos, ysbytai a lleoliadau chwaraeon.

Ar X (Twitter gynt), dywedodd 70.5% y dylid ymestyn y gwaharddiad i fannau awyr agored, tra bod 29.5% yn gwrthwynebu hynny.

Ar Instagram, roedd 80% o blaid ac 20% yn erbyn.

Pôl piniwn: A ddylid ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i fannau awyr agored?

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Bil Tybaco a Fêps, ac mae cynlluniau pellach ar y gweill yn San Steffan