Mae awgrym y byddai unrhyw gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i leoliadau awyr agored yn berthnasol i Gymru hefyd.
Er bod maes iechyd wedi’i ddatganoli i Gymru, roedd Llywodraeth Cymru eisoes yn bwriadu rhoi Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Bil Tybaco a Fêps oedd yn cael ei chyflwyno cyn i’r cyfnod seneddol diwethaf ddod i ben gydag etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4.
Bryd hynny, daeth y Blaid Lafur i rym ar draul y Ceidwadwyr, ac mae manylion wedi’u cyhoeddi ynghylch bwriad Syr Keir Starmer i ymestyn y gwaharddiad ymhellach.
Wrth ddatgan y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law, dywedodd mai’r “man cychwyn yw atgoffa pawb fod dros 80,000 o bobol yn colli eu bywydau bob blwyddyn oherwydd ysmygu”.
“Mae’n farwolaeth mae modd ei hosgoi, mae’n fwrn enfawr ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac wrth gwrs mae’n fwrn enfawr ar drethdalwyr,” meddai.
“Felly ydyn, rydyn ni’n mynd i wneud penderfyniadau yn y gofod hwn, bydd rhagor o fanylion yn cael eu datgelu, ond dyma gyfres o farwolaethau mae modd eu hosgoi ac mae’n rhaid i ni gymryd camau i leihau’r baich ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a threthdalwyr.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedden nhw’n gefnogol o’r Bil Tybaco a Fêps gwreiddiol, ac maen nhw’n gobeithio gweld y Bil yn cael ei gryfhau yn ddiweddarach eleni.
Yn ôl y sôn, mae’r llywodraeth yn ystyried gwahardd ysmygu mewn rhai ardaloedd awyr agored i wella iechyd y cyhoedd 🚭
A ddylai’r llywodraeth ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus? 🤔
— Golwg360 (@Golwg360) August 29, 2024