Mae adroddiad cyntaf Bwrdd Teithio Llesol annibynnol yn gwneud naw o argymhellion er mwyn gwireddu’r uchelgais y gall Cymru fod yn wlad sy’n arwain ar deithio llesol.
Mae’r Bwrdd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailwampio’u prosesau i sicrhau gwell gweithredu, er mwyn gwireddu potensial llawn Cymru fel arweinydd byd-eang.
Er bod y bwrdd yn canmol y Llywodraeth ar eu lefelau ariannu cynyddol, maen nhw’n nodi bod yn rhaid iddyn nhw ailwampio’r broses o gasglu data a blaenoriaethu’r ffordd mae cyllid yn cael ei ddosbarthu.
Yr uchelgais yw sicrhau bod 45% o holl deithiau Cymru erbyn 2040 ar ffurf teithio llesol neu drwy drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae’r adroddiad blynyddol yn pwysleisio’r cynnydd a’r heriau sy’n wynebu Cymru ar ei thaith i fod yn genedl o deithwyr llesol.
‘Darlun cymysg’
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywed Dr Dafydd Trystan, cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol, fod y “manteision iechyd hirdymor o gynyddu cyfraddau teithio llesol yn glir i bawb”.
“Ond mae angen i ni sicrhau gwell canlyniadau teithio llesol yng Nghymru i wireddu’r manteision iechyd hirdymor hynny,” meddai.
“Wrth i mi deithio’n rhyngwladol o fewn yr ynysoedd hyn a thu hwnt, mae gwaith Llywodraeth Cymru ar deithio llesol yn cael ei gydnabod a’i ddathlu fel enghraifft o arfer da – eto i gyd, mae ein hadroddiad yn cyflwyno darlun cymysg.”
Ychwanega fod yna gynnydd sylweddol yn y buddsoddiad mewn isadeiledd teithio llesol, ond fod llawer o’r data sydd eu hangen yn absennol.
“Wrth i fwy o ddata gael ei gasglu a’i gyhoeddi (ac mae angen dybryd am hynny), dylem allu nodi ar lefel fwy penodol yr ymyriadau hynny sy’n cael y llwyddiant mwyaf wrth sicrhau newid dull teithio.
“Rydym wedi gosod yr uchelgais o fod yn genedl teithio llesol, ond hyd yn hyn mae’r cynnydd ar y daith honno wedi bod yn boenus o araf.
“Mawr obeithiaf y byddwn yn gallu adrodd ar gynnydd pendant yn y blynyddoedd i ddod, wedi’i wreiddio mewn ymchwil arloesol sy’n canolbwyntio ar bobl, ac sy’n defnyddio buddsoddiad mewn ffordd sy’n esgor ar lefelau uwch o deithio llesol.”
Teithio llesol ar waith
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffyrdd gwahanol y gall ac y mae Cymru’n “gwneud busnes”.
Un enghraifft o hyn yw fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu Spokesafe yng Nghasnewydd, sy’n cynnig uned storio ddiogel 24/7 gyntaf Cymru, mewn partneriaeth â The Gap Wales.
Fyddai dros hanner defnyddwyr yr uned ddim wedi gallu teithio i ganol y ddinas heb yr uned, ac erbyn hyn mae’r uned yn annog dros dri chwarter y defnyddwyr i feicio i’r dref yn amlach.
Enghraifft arall yw E-Symud Sustrans Cymru, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac sydd wedi llwyddo i leihau nifer y teithiau mewn car gan fuddiolwr cyffredin – 65% yn llai (fel gyrrwr) a 39% yn llai (fel teithiwr).
Dywed Rhiannon Letman-Wade, y dirprwy gadeirydd sy’n cyd-gadeirio’r Is-Grŵp ar Deithio Llesol i Ysgolion, ei bod yn “siomedig, wrth gwrs, nad yw Cymru eto’n elwa’n llawn ar fanteision y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn”.
“Yn ein hadroddiad, rydym yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol a wnaed yn Ysgol Gynradd Howardian, lle mae 90% o ddisgyblion bellach yn teithio’n llesol i’r ysgol,” meddai.
“Felly, mae’n bosib – ac mae’n bosib iawn – fod mwy o ysgolion tebyg, ond does dim modd i ni weld ôl y gwaith yma, oherwydd nid yw’r data lle gallai fod.
“Credwn y gall Llywodraeth Cymru efelychu enghreifftiau o arfer da ar draws Cymru gyfan pe bai’n symud ei chyllid tuag at ‘siop un stop’, lle gall cymunedau ysgolion gael mynediad at ymyriadau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion penodol eu cymuned leol.”
Naw argymhelliad
Mae naw o argymhellion sy’n gysylltiedig â gwella’r gweithrediadau teithio llesol o ddydd i ddydd ar waith ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid.
- Gosod Amcanion C-SMART (CAMPUS) – arwain at fwy o bwyslais ar ganlyniadau ac effaith
- Gwelliant radical mewn gwaith ymchwil a chasglu data – mae prinder data ac ymchwil, felly mae angen deall beth sydd yn a ddim yn gweithio
- Goresgyn materion capasiti – does gan bob Awdurdod Lleol mo’r gallu na’r sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd cyllido
- Ail-ddychmygu cyllid teithio llesol – mae angen sicrhau bod pob un o’r 22 awdurdod lleol yn parhau i gael eu hariannu, ond fod un neu ddwy dref yn cael eu hariannu’n gynhwysfawr i sicrhau newid ymddygiad gwirioneddol.
- Blaenoriaethu teithio llesol a lleihau’r defnydd o geir – mae angen parhau i flaenoriaethu diogelwch cerddwyr gyda chroesfannau sebra ar yr ochr er enghraifft, er mwyn lleihau’r defnydd o geir preifat a helpu i greu system drafnidiaeth wirioneddol integredig a fforddiadwy
- Creu amgylchedd cefnogol lle gall mwy o blant gerdded, olwyno a beicio i’r ysgol – ystyried darparu ‘siop un stop’ lle gall cymunedau ysgolion gael mynediad at ymyriadau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion penodol eu cymunedau lleol.
- Ailwampio casglu data mewn ysgolion – gwella’r broses o gasglu data, a dylai ALlau, Ysgolion Iach, Eco Ysgolion, ac ESTYN cymryd camau i gynyddu cyfranogiad yn yr Arolwg Dwylo i Fyny Teithio i’r Ysgol genedlaethol.
- Prif ffrydio ymagwedd traws-lywodraeth a thraws-sector – mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod eu holl adrannau yn cyd-fynd â hyrwyddo teithio llesol ac yn cael eu hyrwyddo’n gyson ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector i gefnogi darpariaeth yr awdurdodau lleol.
- Diogelu drwy ganllawiau dylunio – dylai’r canllawiau sydd â’r nod o gynyddu diogelwch eiddo roi ystyriaeth lawn i’r manteision i gymunedau o gynyddu teithio llesol.