Bydd ymgyrchwyr amgylcheddol yn cynnal gwersyll hinsawdd cyntaf Cymru ers pymtheg mlynedd y penwythnos hwn.
Bydd y gwersyll yn cael ei gynnal ar Fynydd Cilfái yn Abertawe.
Mae Climate Camp yn fudiad sy’n trefnu gwersylloedd dros dro ar gyfer protestwyr amgylcheddol, a hynny mewn ardaloedd sydd dan fygythiad gan ddatblygiadau eco-laddol sy’n cynyddu allyriadau carbon, ond sy’n cael eu trefnu gyda chefnogaeth y gymuned leol.
Coedwig Cilfái yw ysgyfaint gwyrdd dinas Abertawe, ac mae’n un o goetiroedd ymylol trefol mwyaf Abertawe.
Mae’n Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur dynodedig, yn ardal dawel ddynodedig ac yn dir agored.
Mae ganddo’r llwybrau troed harddaf yng nghanol dinas Abertawe, ac wrth gerdded trwy’r coed mae modd clywed cân adar (gan gynnwys yr ehedydd, jar nos, llinos, hebog tramor, yr adain goch, y fronfraith, sorod y maes, y gigfran a’r llwydfron).
Difrod a niwed
Ond mae sŵn ychwanegol 450,000 o ymwelwyr arfaethedig a llygredd golau yn debygol o arwain at golli adar a difrod pellach i ardal o dirwedd sy’n adfywio.
Mae’n safle cyfoethog ei natur – mae’r glöyn byw glas bach prin, er enghraifft, wedi’i gofnodi yno – ac mae’n goetir ifanc ond sefydledig gyda chynllun rheoli presennol i’w ddychwelyd yn araf i goed llydanddail brodorol wrth i binwydd yr hen blanhigfa farw.
Cafodd y coetir ei blannu gan y gymuned leol, ond nawr mae’n bosibl y bydd y tir hwn sy’n eiddo cyhoeddus yn cael ei brydlesu i gwmni preifat yn wyneb gwrthwynebiad sylweddol gan y gymuned leol.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £4m i helpu i ariannu’r datblygiad hwn er gwaetha’r ffaith ei fod yn mynd yn groes i Ddeddf yr Amgylchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.
Mae’r arian hwn hefyd yn cael ei wario ar adeg pan fo chwyddiant yn uchel, costau ynni yn uchel, a llawer o bobol yn mynd i fanciau bwyd.
Mae Cyngor Abertawe’n rhoi £8m i’r datblygiad hefyd, gan ddweud mai benthyciad yw hwn fydd yn cael ei ad-dalu heb roi unrhyw fanylion.
Yn aml, dydy cynghorau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n rhoi miliynau ‘ar fenthyg’ i ddatblygiadau twristiaeth amheus ddim yn cael eu harian yn ôl, er gwaethaf rhoi sicrwydd i’r cyhoedd.
Arian cyhoeddus yw hwn ac mae pethau gwell a mwy cyfrifol y gellir ei wario arnynt na chynlluniau fel hyn, medd ymgyrchwyr.
Argyfwng hinsawdd
Cyhoeddodd Cyngor Sir Abertawe argyfwng hinsawdd a natur ym mis Mehefin 2019 ac eto ym mis Tachwedd 2021, ac maen nhw hefyd wedi gosod planwyr a byrddau gwybodaeth yng nghanol y ddinas i annog bioamrywiaeth ac i ddathlu a hysbysu pobol am ein treftadaeth naturiol.
Er gwaethaf hyn, mae ymgyrchwyr yn dweud eu bod nhw’n cefnogi prosiect fydd yn dinistrio ardal o goetir maint unarddeg o gaeau pêl-droed ar Fynydd Cilfái, a’i adael wedi’i ddifetha’n barhaol.
Dywed ymgyrchwyr fod hynny’n “dwyn anfri ar honiadau datganedig Cyngor Abertawe am newid hinsawdd a bioamrywiaeth ac yn golygu ei bod yn amheus a yw’r dyheadau hyn yn ddim mwy na geiriau gwag”.
Gweithdai a sesiynau rhannu sgiliau
Bydd Climate Camp Cymru yn ofod addysg gyda nifer fawr o weithdai a sesiynau rhannu sgiliau, gan gynnwys cyfleoedd i ddysgu o frwydrau amgylcheddol eraill ledled y byd fel Ende Gelände yn yr Almaen a chael profiad gyda sgiliau ymgyrchu ymarferol.
“Mae gan Gilfái olygfeydd godidog dros fae Abertawe ac i bob cyfeiriad arall yr edrychwch,” meddai llefarydd ar ran Achub Mynydd Cilfái.
“Mae’n lle tawel a heddychlon lle gall trigolion Abertawe ddianc rhag y cyfan, ailgysylltu â natur, mwynhau’r golygfeydd mewn heddwch, a chael gwared ar straen.
“Bydd hyn i gyd yn cael ei ddinistrio gan yr adeiladau, ceir cebl, peilonau dur, traciau concrit arddull ‘Go Kart’, bwytai, ac yn y blaen sy’n cael eu cynllunio gan Skyline a Chyngor Abertawe.”
Pryderon
Yn ôl ymgyrchwyr:
- bydd y datblygiad arfaethedig yn preifateiddio tua thraean o’r tir sy’n hygyrch i’r cyhoedd ar Fynydd Cilfái mewn man canolog
- bydd yn dinistrio llwybrau presennol sydd heb eu cofnodi ac sy’n cael eu defnyddio ar droed a cheffyl am genedlaethau
- byddai mor eang fel y byddai llygredd sŵn, traffig a llygredd aer yn cael ei effeithio ar bob rhan o’r bryn o’i amgylch, a byddai 22 o geir cebl a siglen awyr 50 metr yn edrych drosto
- bydd y ceir cebl yn edrych dros y tŷ crwn cymunedol sydd mewn man heddychlon
- mae llawer o grwpiau cymunedol yn defnyddio’r bryn oherwydd ei fod yn dirwedd dawel, naturiol heb ei difetha gan ddatblygiadau masnachol.
“Mae Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad y diwydiant tanwydd ffosil sydd wedi dod yn fygythiad enfawr i ddyfodol gwareiddiad,” meddai unigolyn fu’n cynnal gweithdy.
“Fel y disgrifia llyfrau fel The Origins of Capitalism gan Ellen Meiksins Wood, daeth cyfalafiaeth i’r amlwg ar ddiwedd y 1700au yn ne Lloegr, ac ymledodd oddi yno ledled y byd, wedi’i gwthio i raddau helaeth gan yr ymerodraeth Brydeinig.
“Ac roedd y gwythiennau glo cyfoethog sydd gan Gymru yn ffynhonnell allweddol o danwydd ar gyfer yr ehangiad trefedigaethol creulon hwn.
“Gyda’r hanes hwn mewn golwg, credwn ei bod yn gwbl allweddol ein bod ni yng Nghymru hefyd yn cymryd rhan flaenllaw wrth ddod â’r system eco-laddol hon i ben, ac adeiladu rhywbeth mwy cynaliadwy, mwy cyfartal yn ei lle.”
Bydd cymuned y gwersyll ac ymgyrch Achub Mynydd Cilfái yn ymuno â’r gwrthdystiad heddychlon dros cydsefyll â Phalesteina ar lawnt y Cyngor brynhawn Sul (Medi 1), gan alw ar y Cyngor lleol i anrhydeddu eu cyfrifoldebau i warchod yr amgylchedd lleol a lles eu cymuned, ac i greu cysylltiadau undod â chymunedau Palestina sydd ar hyn o bryd yn dioddef dinistr i’w hamgylchedd a’u lles yn Gaza a’r Lan Orllewinol.