Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cefnogi cynnig y blaid yn y Senedd i rwystro cynlluniau Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i roi terfyn ar daliadau tanwydd y gaeaf i bensiynwyr.

Mae 543,372 o bensiynwyr ledled Cymru mewn perygl o golli’r taliad o £300 y gaeaf hwn.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad y Canghellor Rachel Reeves fis diwethaf eu bod nhw wedi etifeddu gorwariant o £22bn gan y Ceidwadwyr, ac felly maen wedi nodi na fydd pensiynwyr yn derbyn taliad lwfans tanwydd y gaeaf.

Mae’r Aelod Seneddol David Chadwick, dirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “ailfeddwl” y toriadau, gan fod angen cefnogaeth ar bensiynwyr.

Mae dadansoddiad newydd yn dangos bod 543,372 o bensiynwyr mewn perygl o golli’r taliad i’w helpu gyda biliau gwresogi ym misoedd y gaeaf – dyma nifer y pensiynwyr yng Nghymru nad ydyn nhw’n derbyn credyd pensiwn, ac felly byddan nhw’n colli’r lwfans tanwydd gaeaf o dan gynlluniau’r llywodraeth oni bai eu bod yn derbyn budd-daliadau eraill.

Cafodd y ffigurau hyn eu llunio gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin, yn seiliedig ar ddata gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Pe bai’r cynnig yn cael ei basio, bydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi llwyddo i ddiogelu pensiynwyr lleol.

Mae disgwyl i’r cynnig gael ei gyflwyno cyn gynted ag y bydd y Senedd yn dychwelyd yr wythnos nesaf, ac mae wedi cael ei gefnogi gan bob un o 72 Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.

Yn ôl elusen Age Cymru, roedd taliad tanwydd y gaeaf yn “achubiaeth” i nifer, a bydd pensiynwyr yn ei chael hi’n anodd fforddio’u biliau ynni o ganlyniad i’r toriadau.

Mae disgwyl i’r Cap Pris Ynni hefyd godi tua 10% ym mis Hydref eleni, gan aros yn uchel yn ystod y gaeaf, a bydd hyn yn golygu y bydd cyfanswm biliau ynni’r rhan fwyaf o bobol bron yn dyblu o gymharu â’r cyfanswm cyn yr argyfwng costau byw.

Annog y llywodraeth i ailfeddwl

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i feddwl eto i amddiffyn pensiynwyr tlotach a mwy bregus rhag cael eu gorfodi i ddewis rhwng bwyta a chynhesu’r gaeaf hwn.

Yn ôl David Chadwick, mae “dileu cefnogaeth” pan fo “biliau ynni ar fin codi eto yn anghywir”.

“Rwyf wedi clywed gan bensiynwyr di-ri ar draws fy etholaeth fy hun ac yn ehangach ledled Cymru sy’n poeni am golli’r gefnogaeth hanfodol hon, a sut y byddan nhw’n fforddio’u biliau ynni y gaeaf hwn.

“Rwy’n cydnabod fod y llywodraeth newydd yn wynebu dewisiadau anodd ar ôl y llanast economaidd echrydus sydd wedi’i adael gan y Ceidwadwyr.

“Ond mae angen ailfeddwl ar frys fel bod pensiynwyr tlotach a bregus yn ein cymuned yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mor ddirfawr.”