Bydd Ysgol Treferthyr yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar ddechrau tymor yr hydref.

Daw hyn yn sgil prosiect gwerth £8.8m gan Gyngor Gwynedd i godi ysgol newydd, eco-gyfeillgar, fydd yn darparu amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf i blant Cricieth a’r cylch.

Fe wnaethon nhw ffarwelio â hen adeilad yr ysgol, oedd wedi cyrraedd diwedd ei oes, ar ddiwedd tymor yr haf.

Mae gan yr ysgol newydd adnoddau o’r radd flaenaf, gyda dosbarthiadau aml-bwrpas, neuadd bwrpasol ar gyfer cynnal gweithgareddau amrywiol gan yr ysgol a’r gymuned, yn ogystal â chaeau chwarae a gofod ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon.

Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer darpariaeth  blynyddoedd cynnar a gofal plant, fydd yn cynnig addysg, chwarae a gofal plant i blant cyn oed ysgol, yn ogystal â chlwb ar ôl ysgol i blant oed cynradd.

Bydd Canolfan ABC ar safle Ysgol Treferthyr yn cynnig gofod i asesu plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd amddiffyn yr amgylchedd yn flaenoriaeth drwy gydol y broses gynllunio, ac mae  technolegau gwyrdd fel pympiau gwres, ffynhonnell aer a phaneli solar yn pweru’r adeilad, ynghyd â deunyddiau cynaliadwy er mwyn cefnogi egwyddorion di-garbon.

Hefyd, mae gan yr ysgol bwyntiau gwefru ceir trydan a system batri ar y safle i storio a defnyddio’r pŵer gaiff ei gynhyrchu.

‘Hynod o lwcus’

Wrth ymateb i’r ysgol newydd, dywed Dylan Roberts, Pennaeth Ysgol Treferthyr, eu bod nhw oll yn “edrych ymlaen yn arw at y cyfnod cyffrous nesaf” ac yn “hynod lwcus o gael adeilad mor arbennig”.

“Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen at ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd sydd wedi eu henwi ar ôl afonydd lleol yn ardal Eifionydd,” meddai.

“Rydym fel ysgol yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at gael yr ysgol yn barod.

“Edrychwn ymlaen at gael darparu addysg a chreu profiadau bythgofiadwy i blant Ysgol Treferthyr ar ein safle newydd.”

Dywed y Cynghorydd Beca Brown, yr Aelod o Gabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg, ei bod hithau’n “rhannu cyffro’r gymuned leol am yr holl adnoddau modern sydd yn yr ysgol newydd, a’r cyfleoedd addysgol gwych fydd ar gael i’r disgyblion”.

“Dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi gweithio’n galed er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma, a dymunaf y gorau i’r plant a’r holl staff yn eu hysgol newydd,” meddai.

Pwyslais ar dechnoleg werdd

Dywed Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ei bod hi’n “wych” gallu cefnogi’r ysgol newydd.

“Mae’r defnydd o dechnoleg werdd yn bwysig i mi oherwydd drwy adeiladu ysgolion cynaliadwy rydyn ni’n darparu ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“O’u cyfuno ag addysgu a dysgu rhagorol, gallai’r cyfleusterau o’r radd flaenaf hon helpu i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosibl.

“Rwy’n gobeithio y byddan nhw’n helpu’r dysgwyr a’r gymuned ehangach i ffynnu.