Mae arweinydd cyngor wedi codi pryderon am yr ansicrwydd ynghylch tua £20m o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer rhaglen adfywio.

Fis Medi y llynedd, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai Merthyr Tudful yn derbyn £20m drwy’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi.

Roedd y cynlluniau’n cynnwys darparu buddsoddiad hirdymor mewn 55 o drefi, i’w wario ar flaenoriaethau pobol leol, gan gynnwys adfywio strydoedd a chanol trefi lleol,  sicrhau diogelwch y cyhoedd, a chysylltedd trafnidiaeth.

Dywed y Cynghorydd Geraint Thomas, arweinydd Annibynnol y Cyngor, eu bod nhw wedi ymgynghori â thrigolion dros y flwyddyn ddiwethaf ar yr hyn yr hoffen nhw ei weld yn digwydd i adfywio’r dref.

Ond dywed eu bod nhw wedi’u dallu pan sylweddolon nhw fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn atal y prosiect.

‘Siomedig’

Ychwanega Geraint Thomas eu bod nhw’n “siomedig nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad ffurfiol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru na’r Aelod Seneddol lleol, Gerald Jones, na’r Aelod o’r Senedd, Dawn Bowden”.

“Mae’r ansicrwydd hwn yn peryglu prosiectau’r dyfodol a’r swyddi sy’n gysylltiedig â nhw,” meddai.

“Mae’r golled o £20m yn ergyd enfawr.”

Dywed fod angen cymorth pobol arnyn nhw i geisio cael atebion ac eglurhad gan yr Aelod Seneddol a’r Aelod o’r Senedd ar gyfer dyfodol y dref.

Mewn datganiad, dywed Cyngor Merthyr Tudful fod erthygl newyddion wedi’i chyhoeddi ddydd Gwener, Awst 23 gan Nation.cymru yn adrodd bod Cynllun Tymor Hir o £80m ar gyfer Trefi Cymru wedi’i ohirio.

Roedd Merthyr Tudful yn un o bedwar awdurdod lleol yng Nghymru fyddai’n elwa o £20m o’r cynllun hwn.

Dywed y Cyngor nad ydyn nhw “wedi derbyn unrhyw ohebiaeth ffurfiol gan San Steffan na Llywodraeth Cymru i gadarnhau hyn”, ac felly y byddan nhw’n “ysgrifennu at Angela Rayner, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, i gael eglurder”.

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n “buddsoddi £125m o arian Trawsnewid Trefi dros dair blynedd (2022-25) i gefnogi canol ein trefi a’n dinasoedd”.

“Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi elwa o dros £18m o gyllid grant a benthyciad Trawsnewid Trefi gyda buddsoddiadau mewn sawl prosiect strategol mawr,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at drafodaethau manwl gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar drefniadau ar gyfer cronfeydd ar ôl yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.”