Mae sylwadau ynghylch cynlluniau i dorri costau yng Nghaerffili wedi esgor ar ddadlau pellach, gyda honiadau o “chwarae gêm wleidyddol sinigaidd”.

Mae uwch gynghorydd yng Nghaerffili wedi gwrthod beirniadaeth gan ddau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd oedd am i drigolion dderbyn mwy o amser i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar y cynlluniau.

Ond mae un o’r ddau yn rhybuddio nad oes gan y Cyngor yr hawl i wneud y toriadau fel maen nhw’n dymuno.

Gallai Cyngor Caerffili gael gwared ar Sefydliad y Glowyr y Coed Duon a Llancaiach Fawr yn ogystal â gwasanaethau cludo prydau bwyd fel rhan o’u cynlluniau i arbed £45m dros y ddwy flynedd nesaf.

Amddiffyn y cynigion

Mae’r Cynghorydd Eluned Stenner, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, wedi amddiffyn y cynigion o ystyried y “twll du” ariannol mae’r awdurdod lleol yn ceisio’i osgoi.

Mae hi’n annog pobol i ystyried yr “heriau ariannol enfawr” sy’n wynebu’r Cyngor Bwrdeistref Sirol.

“Allwn ni ddim parhau i redeg ein gwasanaethau yn y ffordd rydym wedi bod yn ei wneud; mae angen i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol,” meddai.

Daw ei sylwadau yn dilyn galwadau gan ddau Aelod o’r Senedd am estyniad i ymgynghoriadau cyhoeddus parhaus ar y cynigion.

Mae Delyth Jewell a Peredur Owen Griffiths o Blaid Cymru yn honni bod angen mwy o amser ar drigolion i ddweud eu dweud ar y cynlluniau, oherwydd nad oedd nifer ar gael dros yr haf.

Dylai’r Cyngor hefyd gadw’r ymgynghoriad ar agor tan ar ôl i’r Senedd ailymgynnull, fel y gall y pâr ddeisebu Llywodraeth Cymru am gefnogaeth, medden nhw.

Mae Eluned Stenner wedi gwrthod yr awgrym fod angen mwy o amser ar bobol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau, fodd bynnag, gan nodi bod opsiynau ar-lein ar gyfer gwneud hynny.

Roedd cynigion y Cyngor wedi creu “sylw sylweddol yn y cyfryngau” ac “mae’n amlwg o’r ymatebion a gawsom hyd yn hyn bod trigolion yn ymwybodol o’r ymgynghoriadau a’r cynigion”, meddai.

Fe wnaeth yr aelod cabinet hefyd herio Aelodau’r Senedd, gan honni nad ydyn nhw’n “fodlon wynebu’r heriau ariannol enfawr sy’n wynebu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili”.

“Mae Peredur Owen Griffiths, cadeirydd Pwyllgor Cyllid y Senedd, wedi mynegi o’r blaen ei bod yn annhebygol y byddai arian i awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol yn ddigon i gadw gwasanaethau ar lefel dderbyniol, felly mae galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cefnogaeth frys yn ddim ond chwarae gêm sinigaidd,” meddai.

Ymateb Plaid Cymru

Dywedodd Peredur Owen Griffiths wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol ei fod yn “siomedig fod y weinyddiaeth Lafur yn cilio rhag ymestyn yr ymgynghoriad i sicrhau bod y broses mor gadarn â phosib”.

Dywed fod yr alwad am estyniad yn “rhesymol”, gan ofyn, “Beth maen nhw’n ei ofni?”

Dywed yr Aelod o’r Senedd ei fod wedi “cydnabod yn yr ymateb i’r ymgynghoriad – ac mewn nifer o fforymau eraill – fod cyllid llywodraeth leol yn dynn”.

“Nid yw hynny fodd bynnag yn rhoi caniatâd i’r cyngor Llafur dorri ar sefydliadau diwylliannol a hanesyddol fel Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Llancaiach Fawr na gwasanaethau hanfodol fel pryd ar glud,” meddai.

“Mae hyn yn arbennig o wir pan fo’n ymddangos nad yw asesiadau effaith trwyadl wedi’u cynnal yn gywir.

“Mae yna ateb syml i’r broblem hon a hynny yw i’r Cynghorydd Stenner a’i chydweithwyr yn y cabinet lobïo eu cydweithwyr yn y blaid yn San Steffan i gefnu ar eu gwleidyddiaeth lymder a dechrau pwmpio arian i mewn i Gymru.”

Rhybuddia Peredur Owen Griffiths hefyd y gallai’r cynigion arwain at ganlyniadau etholiadol.

“Ar ôl canlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf, ni all Llafur bellach guddio y tu ôl i feio’r Torïaid am y setliadau ariannol gwael mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn eu derbyn yng Nghymru,” meddai.

‘Angen sicrhau dyfodol Sefydliad y Glowyr y Coed Duon a Maenordy Llancaiach Fawr’

Mae dros 5,200 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw ar Gyngor Caerffili i ailystyried stopio rhoi cymorthdaliadau i’r sefydliadau