Bydd cynhadledd Copa1, cynhadledd amgylcheddol ieuenctid gyntaf Cymru, yn cael ei chynnal ar yr Wyddfa ymhen llai na mis.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sydd wedi trefnu’r digwyddiad ar Fedi 24, wrth iddyn nhw anelu at fynd i’r afael â phroblem llygredd plastig untro drwy ddatblygu syniadau arloesol y genhedlaeth nesaf.
Yn y gynhadledd, bydd arloeswyr ifainc ac arbenigwyr yn dod ynghyd i drafod a rhannu syniadau ynghylch sut i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r mynydd.
Mae Copa1 yn anelu i rymuso llysgenhadon hinsawdd y dyfodol, er mwyn darparu’r cyfle unigryw i wneud gwir wahaniaeth i Eryri.
O’r 200 o geisiadau, mae 15 grŵp wedi cyrraedd y rownd derfynol ac wedi’u dewis i fynychu’r gynhadledd er mwyn cyflwyno eu ‘Syniadau Mawr’.
Bydd yr enillwyr yn derbyn grant datblygu o £1,500 sydd wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol.
Mentora a datblygu syniadau
Ar y panel o feirniaid adnabyddus mae’r gwleidydd Liz Saville Roberts, yr awdur a chantores Casi Wyn, a Pryderi ap Rhisiart, Cyfarwyddwr M-Sparc, a byddan nhw’n mentora’r disgyblion i ddatblygu a gwireddu eu syniadau.
Dywed Alex Young, Swyddog Prosiect yr Wyddfa Ddi-blastig, fod “COPA1 yn ffordd gynaliadwy o gynnal cynhadledd, trwy bwysleisio ar y meddylfryd o ail-lenwi, ail-ddefnyddio ac ailgylchu, yn ogystal â blaenoriaethu cynnyrch cynaliadwy a di-blastig gydol y diwrnod”.
“Yn ychwanegol i hyn bydd y rhai fydd yn mynychu’r gynhadledd yn hyrwyddo a gwneud defnydd o wasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa, ffordd amgylcheddol i ymwelwyr deithio yn yr ardal,” meddai.
Beth sy’n digwydd yn y dyddiau’n arwain at y gynhadledd?
Ychydig ddyddiau cyn y gynhadledd, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Mynydda Prydain (BMC), Trash Free Trails, Plantlife a Chymdeithas Eryri’n ceisio gwaredu gwerth degawdau o sbwriel o Glogwyn y Garnedd er mwyn lleihau’r effeithiau amgylcheddol.
Ar Fedi 21, bydd tîm profiadol o ddringwyr yn disgyn ar wyneb yr Wyddfa gyda’r ecolegydd trwyddedig Robbie Blackhall-Miles VPLS i amddiffyn planhigion Arctig-Alpaidd megis y Dorfaen Fwsoglyd, sydd bellach yn tyfu yng nghanol y sbwriel.
Bydd y sbwriel yn cael ei arolygu a’i ddadansoddi gan dîm o wirfoddolwyr trawsgymunedol er mwyn sicrhau nad oes mwy o feicroplastigion yn llygru’r amgylchedd lleol.
Yn dilyn gwaith glanhau ar yr Wyddfa, bydd COPA1 yn manylu ar ddatblygu strategaethau i fynd i’r afael a’r argyfwng plastigion untro trwy roi pwyslais ar dri maes, sef arloesedd, datblygu polisi ac ymgysylltu creadigol cyhoeddus.
Y nod yw gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i leihau sbwriel yn yr ardal ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol i warchod ein hamgylchedd.
Beth yw prosiect Yr Wyddfa Ddi-blastig?
Cam pwysig ac uchelgeisiol
Mae prosiect yr Wyddfa Ddi-blastig yn gam pwysig ac uchelgeisiol wrth geisio gwarchod dyfodol cynaliadwy’r mynydd.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn ceisio annog cerddwyr ac ymwelwyr i fynd â’u sbwriel adref, gan beidio â’u taflu ar y mynydd.
Mae arolwg yn dangos bod 85% o bobol yn cymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel, a 71% o bobol yn mynd â’u sbwriel adref gyda nhw.
Mae’r prosiect yn annog pobol i fod yn ddoeth a pheidio â gadael sbwriel, waeth pa mor bitw yw e.