Mae Cyngor Gwynedd wedi cymryd y camau pwysig cyntaf i gyflwyno cynllun arloesol ‘Tai yn Gyntaf’ i Wynedd.

Maen nhw wedi penodi The Wallich, sef yr elusen ddigartrefedd a chysgu allan ar y stryd fwyaf yng Nghymru, i arwain y gwasanaeth.

Bwriad y cynllun ‘Tai yn Gyntaf’ yw ceisio datrys digartrefedd trwy ganolbwyntio ar symud pobol ddigartref yn syth i dŷ annibynnol a pharhaol.

Maen nhw hefyd yn darparu cefnogaeth a gwasanaethau ychwanegol pan fo angen.

Yr egwyddor syml y tu ôl i’r gwasanaeth yw fod angen i bobol ddigartref gael cynnig ‘tŷ yn gyntaf’, yn hytrach na chael eu rhoi mewn llety brys sydd, gan amlaf, yn anaddas i’w hanghenion.

Maen nhw wedyn yn mynd i lety dros dro, cyn cael eu symud i gartref parhaol.

Blaenoriaeth i’r sir

Yn ystod 2023-24, nododd bron i 1,000 o bobol yng Ngwynedd eu bod nhw’n ddigartref, gyda nifer cynyddol o’r bobol hyn yn byw ag anghenion cymhleth fel problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a hanes o droseddu.

Mae sicrhau nad oes neb yn ddigartref yn y sir yn flaenoriaeth allweddol i’r Cyngor.

Mae cynlluniau pellach i ddatblygu mwy o unedau tai â chefnogaeth a chreu llety penodol i bobol ifanc ddigartref, ynghyd â darparu cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol i gefnogi pobol fregus i aros yn eu cartrefi.

Mae’r cynlluniau hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140m Cyngor Gwynedd.

‘Dim ateb sy’n addas i bawb’

Wrth ymateb i’r cynllun arloesol hwn, dywed y Cynghorydd Craig ab Iago, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Dai ac Eiddo ar Gyngor Gwynedd, ei fod yn “croesawu’r prosiect newydd yma”, gan edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r Wallich er mwyn “darparu’r cyfleodd gorau i bobol ddigartref yng Ngwynedd i ailadeiladu eu bywydau”.

“Mae’r model Tai yn Gyntaf yn defnyddio’r cartref fel man cychwyn, yn hytrach na’r gôl derfynol, ac mae’n caniatáu i bobol sy’n profi digartrefedd gael cefnogaeth sy’n addas ar gyfer eu hanghenion arbennig eu hunain mewn gofod saff a sefydlog,” meddai.

“Does dim ateb sy’n addas i bawb pan mae’n dod at daclo digartrefedd, efo pob achos a stori mor unigryw – mae’r dull yma’n rhan o strategaeth amlweddog gan Gyngor Gwynedd i drio atal, trechu a dod â digartrefedd i ben yn y sir.”

Ychwanega Sophie Haworth-Booth, Arweinydd Gweithredol Strategol yr elusen The Wallich, ei bod yn “hynod gyffrous bod ein tîm bellach yn gallu rhannu eu harbenigedd i gefnogi pobol sydd angen tai yng Ngwynedd”.

“To uwchben rhywun yw’r cam cyntaf allan o ddigartrefedd, ac mae’r gefnogaeth hollbwysig hefyd yn cadw pobol yn eu cartref am y tymor hir,” meddai.

Mae’r gwasanaeth newydd Tai yn Gyntaf Gwynedd yn dod â phum swydd newydd i’r ardal hefyd.

Gwasanaeth arbenigol yw hwn sydd ar gael trwy atgyfeiriad yn unig.,

Felly, os ydych chi’n ddigartref, neu’n poeni am rywun sy’n cysgu tu allan, cysylltwch â gwasanaeth digartrefedd Cyngor Gwynedd ar 01766771000 neu digartref@gwynedd.llyw.cymru.