Mae cynlluniau i alluogi’r cyhoedd i ddiarddel Aelodau’r Senedd sy’n camymddwyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Dydy gwleidyddion ym Mae Caerdydd ar hyn o bryd ddim yn wynebu colli eu seddi pe baen nhw’n torri rheolau’n ymwneud ag ymddygiad, yn wahanol i Aelodau Seneddol yn San Steffan.

Mae Pwyllgor Safonau’r Senedd yn ystyried a ellid cyflwyno system debyg pan fydd maint y sefydliad yn tyfu o 60 aelod i 96 erbyn yr etholiad nesaf yn 2026.

Mae aelodau’r pwyllgor yn ystyried a fyddai modd cyflwyno mecanwaith lle gallai etholwyr benderfynu a ddylai gwleidydd sydd wedi torri’r rheolau golli ei sedd.

Systemau sy’n effeithiol ledled y byd

Wrth ymateb, dywed Darren Millar, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, fod y ffaith ei bod hi’n “bosibl i Aelodau’r Senedd golli eu swyddi am fethu â chynnal ymddygiad o safon barchus yn fecanwaith adalw hollbwysig sydd wedi bod ar goll o’r Senedd”.

“Mae systemau o’r fath yn cael eu defnyddio ledled y byd, ac mae wedi’i brofi eu bod yn effeithiol iawn,” meddai.

“O ystyried y bydd newidiadau i’r system bleidleisio yn golygu na fydd y cyhoedd yn cael y cyfle i ethol ymgeiswyr unigol o’u dewis i Senedd Cymru yn y dyfodol, mae cael system sy’n hybu atebolrwydd uniongyrchol Aelodau’r Senedd i’r pleidleiswyr yn bwysicach fyth.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar Fedi 27.