Mae dyn 43 oed o Abertawe wedi’i gael yn euog o fasnachu saith o fudwyr gafodd eu gwasgu i mewn i gefn lori boeth.

Fe wnaeth Anas Al Mustafa archebu lle i deithio ar fferi o Dieppe i Newhaven yn ei gerbyd fis Chwefror eleni.

Daeth staff porthladd Newhaven yn ne-ddwyrain Lloegr o hyd i’r mudwyr – dynes a chwe dyn – a bu’n rhaid iddyn nhw dderbyn triniaeth yn yr ysbyty am effeithiau’r gwres yn dilyn y digwyddiad.

Cafwyd hyd i’r mudwyr yn bloeddio am gymorth mewn rhan fechan o’r lori, ac roedden nhw wedi’u gwasgu fel nad oedd modd iddyn nhw symud eu breichiau ac roedd prinder ocsigen yn y cerbyd hefyd.

Pan gafodd Mustafa ei arestio yn y fan a’r lle ar amheuaeth o fasnachu pobol, fe geisiodd e ddileu deunydd o’i ffôn symudol oedd yn ymwneud â’r drosedd.

Roedd yr heddlu wedi ei stopio o’r blaen gan eu bod nhw’n ei amau o smyglo shisha a sigaréts i mewn i’r Deyrnas Unedig.

Yn Llys y Goron Lewes, cafwyd e’n euog o dorri cyfreithiau mewnfudo.

‘Gwarthus’

“Gallai’r digwyddiad gwarthus hwn fod wedi arwain yn hawdd iawn at drasiedi, ac mae pawb gafodd eu gwasgu i mewn i fan y troseddwr hwn yn eithriadol o lwcus eu bod nhw’n dal yn fyw,” meddai’r Fonesig Angela Eagle, y Gweinidog Diogelwch Ffiniau a Lloches yn San Steffan.

“Rydym yn anfon neges glir na fyddwn yn godde’r math hwn o weithgarwch sy’n peryglu bywydau.

“Bydd ein Rheolwyr Diogelwch Ffiniau’n cydweithio â phartneriaid ledled Ewrop i chwalu modelau busnes y gangiau smyglo troseddol ac yn atal eu gweithgarwch ymhell cyn iddyn nhw gyrraedd y Deyrnas Unedig.”

Dywed llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref y byddan nhw’n “parhau i erlyn smyglwyr yn ddiflino”.

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod nhw “wedi ymroi i gydweithio â gweithredwyr y gyfraith i adnabod ac erlyn y rheiny sydd ynghlwm wrth fasnachu pobol”.