Mae dynes 41 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o lofruddio bachgen chwech oed yn Abertawe.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Gendros y ddinas am oddeutu 8.30 neithiwr (nos Iau, Awst 29).

Mae’r ddynes yn cael ei holi yn y ddalfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau’r berthynas rhwng y ddau, ond roedden nhw’n byw yn yr un eiddo, medden nhw.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall.