Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Joseff Gnagbo sy’n rhannu ei atgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Joseff yn geisiwr lloches o’r Arfordir Ifori sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac wedi bod yn diwtor Cymraeg ail iaith yng Nghaerdydd.  Cafodd ei dderbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol  Rhondda Cynon Taf eleni gan dderbyn y Wisg Las…


Fy atgof cyntaf yw bwyta reis wedi’i weini gyda palm butter soup [math o gawl trwchus] gyda chig neu bysgod. Mae’r pryd yma’n glasur o’r Côte d’Ivoire ac yn cynrychioli blasau fy mhlentyndod. Mae pob brathiad yn fy atgoffa o brydau gyda’r teulu, lle’r oedd y bwyd yn gyfle i rannu a dod at ein gilydd.

Roedd fy mam yn coginio bob dydd, gyda chymorth morwyn, ei chwiorydd a’m chwiorydd hŷn. Roedd y rhan fwyaf o’r hyn roeddwn i’n ei fwyta wedi’i baratoi gartref, gyda gofal a chariad. Dysgodd y traddodiad hwn bwysigrwydd bwyd cartref i fi ac, heddiw, dw i’n hoffi coginio fy mwyd fy hun yn hytrach na bwyta allan. Pan fydda’i yn mynd i fwyty, mae’n well gen i brydau ffres sydd wedi cael eu paratoi gan gogydd yn hytrach na bwydydd parod. Mae ansawdd y cynhwysion yn bwysig iawn i fi.

 

Sukumawiki

Pan fydda’i angen cysur, dw i’n troi at brydau sydd wedi’u gwneud â llysiau deiliog gwyrdd, fel sukumawiki (yn Swahili) neu sbigoglys. Mae’r prydau hyn yn rhoi’r teimlad o buro fy nghorff a thawelu fy meddwl. Maen nhw’n syml, yn faethlon, ac yn fy atgoffa o brydau traddodiadol sy’n teimlo’n llesol i fi.

Byddai fy mhryd delfrydol yn cynnwys pysgodyn wedi’i grilio, ynghyd â llysiau ffres a yams neu ffa. Byddai’r pryd yma’n cael ei fwyta mewn lleoliad syml ond cynnes, efallai ar lan y môr neu mewn gardd, gyda fy nheulu a fy ffrindiau agos o nghwmpas. Byddai symlrwydd y cynhwysion, a’r cyfeillgarwch, yn gwneud y pryd hwn yn berffaith.

Mefus

Mae arogl a blas mefus ffres bob amser yn fy atgoffa o’r haf. Bob tro dw i’n bwyta mefus nawr, dw i’n cael fy nhrosglwyddo’n syth i ddyddiau heulog hyfryd dw i wedi’u cael yma yng Nghymru ers 2018, gyda chynhesrwydd yr haul ar fy nghroen a blas melys y mefus yn byrstio yn fy ngheg. Dyma wir flas yr haf i fi.

Pan fydda’i yn croesawu ffrindiau neu deulu yma yng Nghymru, dw i’n aml yn paratoi saws cnau mwnci yn arddull y Côte d’Ivoire. Mae’n bryd sy’n fy atgoffa o fy ngwreiddiau ac sydd bob amser yn llwyddiant mawr. Mae cyfoeth y menyn cnau mwnci wedi’i gymysgu a sbeisys a chyw iâr neu gig tendr yn dod â chynhesrwydd a chysur sy’n cael ei werthfawrogi gan bawb. Mae’n bryd hael sy’n dangos eich bod chi wedi rhoi’ch calon i mewn i baratoi’r bwyd, a dw i’n caru rhannu fy niwylliant gyda fy anwyliaid.

Joseff Gnagbo yn cael ei dderbyn i’r Orsedd

Y rysáit dw i’n ei wneud dro ar ôl tro yw’r saws cnau mwnci wnes i ddysgu gwneud yn ystod fy alltudiaeth yng Ngogledd Affrica ac yma yng Nghymru. Bob tro dw i’n paratoi’r saws yma, gyda’i flasau cyfoethog a sbeislyd, dw i’n teimlo fy mod i yn ôl yn fy nghartref, ac wedi fy amgylchynu gan fy anwyliaid. Mae’n fwy na phryd, mae’n etifeddiaeth dw i’n falch o’i pharhau. Mae’n ymgorffori gwydnwch a chariad teuluol, gwerthoedd sy’n dod gyda fi ble bynnag dw i’n mynd.


Rysáit ar gyfer y saws cnau mwnci (ar gyfer 4 person):

Cynhwysion:

1 kg o gig (cyw iâr, cig eidion neu bysgodyn yn ôl eich dewis)

200g o bâst cnau mwnci

2 tomato canolig

1 nionyn

2 ewin garlleg

1 pupur ffres (dewisol, yn dibynnu pa mor sbeislyd dach chi’n hoffi eich bwyd)

1 llwy fwrdd o bâst tomatos

Olew

Halen a phupur

1 ciwb sesnin

Dull:

  1. Cynheswch ychydig o olew mewn sosban. Ychwanegwch y darnau o gig, halen a phupur, a’u coginio nes eu bod yn frown bob ochr. Tynnwch y cig o’r sosban a’i gadw ar wahân.
  2. Yn yr un sosban, coginiwch y nionyn a’r garlleg nes eu bod yn dryloyw. Ychwanegwch y tomatos wedi’u torri’n fân, y pâst tomatos, a’r pupur. Gadewch iddo fudferwi am tua 5 i 10 munud nes bod y tomatos wedi’u coginio’n dda.
  3. Ychwanegwch y pâst cnau mwnci gydag ychydig o ddŵr poeth i wneud cymysgedd llyfn. Ychwanegwch y gymysgedd i’r sosban gyda’r tomatos, yna ychwanegwch y cig yn ôl i’r sosban. Cymysgwch yn dda.
  4. Gorchuddiwch y cyfan â dŵr a gadewch iddo fudferwi ar wres canolig am tua 20 i 30 munud, nes bod y cig yn dyner a’r saws wedi tewhau. Mae’r saws yn barod pan fydd yr olew yn codi i’r wyneb.
  5. Gweiniwch y saws cnau mwnci yn boeth gyda reis, neu foutou (plantan wedi’u stwnshio, sy’n saig draddodiadol yn y Côte d’Ivoire).

Bydd y rysáit yma’n rhoi blas o fwyd y Côte d’Ivoire, a gallwch ei addasu yn ôl eich dewis o gig neu sbeisys.