Daethon nhw yma yn eu miloedd er gwaetha’r Gŵyl y Banc hydrefol. Fe’u pasiais yn cerdded i nunlle penodol ar balmentydd cyfyng Betws y Coed, a goddiweddyd eu ceir oedd wedi parcio tîn-wrth-dîn am Gwm Idwal. Ond wrth yrru hyd yr A5 yn ysblander soeglyd Eryri-formerly-known-as-Snowdonia, chwadal y wasg Seisnig, mi gododd fy nghalon o weld cymaint o gerbydau o dir mawr Ewrop. Cerbydau fu’n destun gêm i mi’n blentyn, yn dyfalu ‘pa wlad?’ ar sail lliw eu platiau cofrestru. Dyna chi rai melyn amlwg o’r Iseldiroedd, y Renault Espaces anorfod o Ffrainc, platiau coch a gwyn unigryw Gwlad Belg, ceir o Iwerddon efo enwau’r siroedd yn y Wyddeleg. Heb anghofio’r rhai mwyaf cyffredin ohonyn nhw i gyd yn ffont unigryw’r Almaen. Bellach, maen nhw wedi’u huno gan faner las a seren aur ar y gornel chwith, ac enw eu gwledydd wedi’u talfyrru oddi tani.
Gwelais un neu ddau annisgwyl mewn ambell gilfan hefyd. Aethom heibio campyrfan o Norwy wrth feicio gyda fy nai i lawr Nant Ffrancon. Ac ym maes parcio Bryn Celli Ddu ym Môn, roedd teulu wedi stopio am bicnic yn eu fan â sticer ‘CH’ â chroes wen ar gefndir coch y Swistir. Es adre’n teimlo’n hapusach rywsut, bod ein cefndryd Ewropeaidd eisiau dal i ddod yma er gwaethaf pleidlais 2016.
Dyma’r math o ymwelwyr yr hoffwn i eu gweld yng Nghymru; ymwelwyr sydd eisoes yn siarad iaith arall ac felly’n gwerthfawrogi dwyieithrwydd y parthau gorllewinol hyn, yn fwy na Dave a Barbara o Bolton sy’n heidio yma’n gyson i’w AirBnB yng Ngwynedd gyda’u cŵn rhech. Rhai nad ydyn nhw yn cyfrannu fawr ddim at yr economi leol wrth barcio’n ddi-dâl am ddiwrnod cyfan yn Nyffryn Ogwen a chludo neges o ryw Tesco anferthol gyda nhw, fel dywedodd perchennog llety gwyliau o’r Bala ar Newyddion S4C.
Ond mae’n ymddangos nad yw Cymru’n gymaint o dynfa i dramorwyr ag ydi rhannau eraill o’r ynysoedd hyn. Dengys ymchwil gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ym mis Gorffennaf 2023 ein bod ni’n tangyflawni o ran denu ymwelwyr rhyngwladol sy’n gwario tipyn mwy na Saeson ar staycation. Cymru ydi’r unig ran o’r Deyrnas Unedig lle nad yw lefelau’r ymwelwyr wedi dychwelyd i lefelau cyn-pandemig. Llwyddodd yr Alban i ddenu 15% yn fwy o dwristiaid tramor yn 2023 o gymharu â 2019, tra bod 13% yn llai wedi dewis Cymru yn yr un cyfnod. Fe warion nhw £3,593m ar wyliau yn yr Alban yn 2023 o gymharu â £458m yng Nghymru.
Mae cymhariaeth sydyn rhwng gwefannau’r byrddau croeso yn dweud cyfrolau. Tra bod gwefan visitwales.com ond yn cynnig gwybodaeth mewn tair iaith (Cymraeg, Almaeneg a Saesneg), mae Visit Scotland yn dipyn mwy croesawgar mewn pum iaith (Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Iseldireg a Sbaeneg) a Discover Northern Ireland hyd yn oed yn cynnig fersiwn Tsieinëeg. Ychwanegwch y ffaith fod gan yr Alban bum maes awyr rhyngwladol o gymharu ag un bach yng nghornel de-ddwyrain Cymru, ac mae’n llawer haws denu tramorwyr i’r topiau acw. Rydan ni, ar y llaw arall, yn llawer mwy hygyrch i dramorwyr ddreifio yma, a ninnau’n nes at borthladdoedd mawr Môr Udd.
Difyr nodi mai ein cefndryd Celtaidd oedd ein hymwelwyr mwyaf poblogaidd y llynedd, ond taw’r Americanwyr sydd â’r grym gwario mwyaf (Ffynhonnell: Ymweliadau a Gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol â Chymru, Llywodraeth Cymru, Gorffennaf 2023).
Roedd hysbyseb ddiweddar Visit Wales ar deledu a’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos pobol fodelaidd o ddel yn marchogaeth ar y traeth, yn arfordira a llenwi’u boliau mewn bwyty swanc. Neis iawn, ond doedd yr hysbys ddim yn sgrechian ‘CYMRU!’ i mi. Mewn ymgyrch arall, cafodd yr actor Luke Evans ei gyflogi i fynd ar weiren wib a mwydro am “exhilarating moment in time that lasts forever”. Dim ond ‘Wales’ ymddangosodd ar ddiwedd y naill ffilm a’r llall. Beth am i’r Gymdeithas Bêl-droed gael gair â’r Gweinidog Twristiaeth Jack Sargeant?
A beth am atgyfodi brand “The Big Country” y Bwrdd Croeso ddechrau’r 2000au? Mae’r hysbyseb 40 eiliad, sy’n dal ar wefan YouTube, yn dangos teulu mewn Mercedes Estate ar goll yng nghanol cefn gwlad godidog. Fe’u gwelwn yn pasio arwyddion ffyrdd llawn enwau egsotig fel ‘Llangernyw’, ‘Trefriw’ a ‘Rhyd-uchaf’, cyn cloi gyda brawddeg tafod-yn-boch “…but for the not so adventurous, we’ve written some of the signs in English as well.”
Ein hiaith fyw ydi’n pwynt gwerthu unigryw (USP). Dyna sy’n ein gosod ni ar wahân i’r Alban a Gogledd Iwerddon, heb sôn am ‘Reiny Drws Nesa’. A dyna’r ffordd i ddenu ymwelwyr diwylliedig â mwy o bres yn eu pocedi.