Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd wedi cael ei phenodi yn Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn lle Hannah Blythyn.
Mae’r cyn-Ysgrifennydd yn gwadu’r honiadau yn ei herbyn, ac yn dweud ei bod wedi’i “syfrdanu a’i thristáu’n fawr” gan y digwyddiad.
“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Sarah Murphy yn Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol,” meddai Vaughan Gething.
“Bydd Sarah yn bwrw ymlaen â’n gwaith parhaus gyda’n partneriaid cymdeithasol gwerthfawr, yn ogystal â darparu arweinyddiaeth ar gyfer ein sectorau creadigol, lletygarwch, twristiaeth a manwerthu.
“Croesawaf Sarah yn gynnes i’m tîm Cabinet talentog ac uchelgeisiol.”
Mae Sarah Murphy yn Aelod o’r Senedd ers 2021, ac yn ystod ras arweinyddol y Blaid Lafur ddechrau’r flwyddyn bu’n cefnogi Jeremy Miles.
‘Dim amser i’w wastraffu’
Wrth ymateb i’r penodiad, dywed llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Bartneriaeth Gymdeithasol ei fod yn ei llongyfarch ar ei phenodiad.
“Does gan yr Ysgrifennydd newydd ddim amser i’w wastraffu ar ddadlau mewnol y Blaid Lafur,” meddai Joel James.
“Mae nifer o breswylwyr wedi colli ffydd yn adolygiad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn barod, ac mae angen i’r Ysgrifennydd gael gafael ar y mater.”
Roedd Hannah Blythyn yn y penawdau ym mis Chwefror pan gyhoeddodd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth dros Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru oherwydd diwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod.