Mae un o Weinidogion Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig yn wynebu ymchwiliad gan yr heddlu a Chomisiynydd Safonau’r Senedd.

Honnir bod Laura Anne Jones, Llefarydd Diwylliant, Twristiaeth, Chwaraeon a Chyfiawnder Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, wedi hawlio arian am deithiau ffug.

Cafodd swyddogion eu galw ar ôl i negeseuon ddod i’r golwg sy’n rhoi’r argraff ei bod wedi gofyn i staff hawlio petrol am deithiau doedd hi heb eu gwneud.

Mae cofnodi cyfrifeg ffug yn erbyn y gyfraith, beth bynnag yw maint yr arian dan sylw.

Mae Nation.Cymru ar ddeall bod ymchwiliad y Comisiynydd Safonau wedi dechrau dros fis yn ôl, a bod Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad tua “dwy neu dair wythnos yn ôl”.

Dywedodd Laura Anne Jones wrth Nation Cymru, y bydd hi’n “cydweithredu yn llawn efo unrhyw ymchwiliad i’w gweithrediadau fel Aelod o’r Senedd”.

“Mae’r broses yn gyfrinachol, felly dw i’n disgwyl na fydd running commentary, neu bydd risg o beryglu cywirdeb y broses honno.”

“Yn anffodus, dydyn ddim yn gallu ymateb i unrhyw ymholiadau am bobol sydd wedi’u henwi,” ychwanega Heddlu De Cymru mewn datganiad.