Mae ffermwyr wedi croesawu newidiadau i fesurau lladd gwartheg sydd wedi profi’n bositif am y diciâu (TB).

Bydd y newid, sy’n cael ei gyflwyno ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, yn golygu na fydd yn rhaid lladd gwartheg beichiog ar ffermydd.

Nod y newidiadau, meddai Llywodraeth Cymru, ydy lleihau nifer y gwartheg sy’n gorfod cael eu lladd ar ffermydd.

Cafodd cyfarfod o’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB ei gynnal fis diwethaf, ac mae Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, am weithredu ar eu holl argymhellion.

Yn ôl undebau amaethyddol, mae’r newidiadau yn newyddion i’w groesawu, ac maen nhw’n falch bod gweithredu ar y mater.

‘Canlyniad andwyol hirdymor’

Roedd Undeb Amaethyddwyr Cymru ymysg y rhai roddodd dystiolaeth ac argymhellion i’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB, a dywed Dai Miles, y dirprwy lywydd, ei fod yn falch bod y broses wedi “digwydd mor gyflym”, a’u bod nhw’n gobeithio y gellir rhoi camau ar waith “cyn gynted â phosib i leihau’r achosion o ladd ar ffermydd”.

“Nod ein hargymhellion oedd lleihau nifer y gwartheg sy’n cael eu lladd ar ffermydd yn dilyn achosion o TB mewn gwartheg a darparu cymorth mewn amgylchiadau lle nad oes modd osgoi lladd ar glos y fferm,” meddai.

“Mae effeithiau’r broses hon yn cael canlyniad andwyol hirdymor ar iechyd a lles ein teuluoedd amaethyddol.

“Fodd bynnag, rhaid i ni beidio ag anghofio bod yr angen i drafod y pwnc o leddfu erchyllterau lladd ffermydd yn ceisio unioni’r symptom yn hytrach na mynd i’r afael â gwraidd y broblem.

“Mae hyn yn parhau i fod yn record ddifrifol o raglen cwbl aneffeithiol dros gyfnod maith i ddileu y diciâu o fuchesi gwartheg yng Nghymru.

“Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Grŵp Cynghori Technegol a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â ffyrdd eraill y gellir gwella’r rhaglen dileu TB mewn gwartheg er budd holl ffermwyr gwartheg Cymru.”

‘Gweld y trallod’

Mae’r newidiadau’n golygu na fydd rhaid i ffermwyr ddifa buwch neu dreisiad yn ei 60 diwrnod olaf o feichiogrwydd nac anifeiliaid sydd wedi geni llo yn y saith niwrnod diwethaf, cyn belled â’u bod yn cymryd camau i amddiffyn gwartheg eraill yn y fuches.

Bydd hyblygrwydd hefyd os ydy buwch yn cael meddyginiaeth.

Dangosa’r ystadegau bod 8% o gynnydd yn nifer y gwartheg gafodd eu lladd ar ffermydd Cymru yn ystod 2023, o gymharu â 2022, ac roedd y ffigwr ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf yn 10,299.

Bydd Llywodraeth Cymru, NFU Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru a chynrychiolwyr eraill o’r sector gwartheg yn sefydlu gweithgor dan arweiniad y diwydiant i weld sut y gellir osgoi lladd ar y fferm a lleihau ei effeithiau hefyd.

“Rydym wedi gweld y trallod y mae TB yn ei achosi i deuluoedd a busnesau ffermio,” meddai Huw Irranca-Davies, yr Ysgrifennydd Cabinet, fu’n ymweld â Fferm Rhadyr ym Mrynbuga, sydd wedi dioddef achosion o TB, yn ddiweddar.

“Gall lladd gwartheg ar y fferm achosi diflastod ofnadwy i’r rheini sy’n ei weld yn digwydd a chael effaith niweidiol ar les ac iechyd meddwl ffermwyr a gweithwyr fferm.

“Ei effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a’u busnesau sydd flaenaf ar fy meddwl.

“Hoffwn ddiolch i’r Grŵp Cynghori Technegol am weithio’n gyflym i gyflwyno’r argymhellion hyn ar bwnc mor sensitif. Gallwn nawr ddechrau ystyried sut i wneud newidiadau cadarnhaol i’r rhaglen TB.

“Allwn ni ddim cael gwared ar TB ar ein pennau ein hunain. Mae gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a milfeddygon yn hanfodol er mwyn cyrraedd y nod cyffredin o Gymru heb TB.”