Aelod o’r Senedd Dwyfor a Meirionydd yw’r aelod Plaid Cymru cyntaf i ddweud ei fod wedi colli hyder yn y Prif Weinidog.
Wrth siarad â golwg360, dywed Mabon ap Gwynfor bod Vaughan Gething wedi dangos nad oes ganddo “reolaeth o gwbl yn ei lywodraeth ei hun,” a bod hi’n hanfodol cael “sicrwydd bod gan Gymru rywun sydd yn well na hyn” fel Prif Weinidog.
Ddoe (Mai 16), cafodd Hannah Blythyn, Ysgrifennydd Partneriaeth Gymdeithasol Cymru, ei ddiswyddo o Lywodraeth Cymru.
Yn ôl Vaughan Gething, mae wedi gweld tystiolaeth ei bod hi wedi rhyddhau gwybodaeth i’r cyfryngau.
Mae Hannah Blythyn yn gwadu ei bod hi wedi rhyddhau dim, ac wedi dweud bod y diswyddiad wedi’i “syfrdanu” a’i “thristau’n fawr”.
Yn sgil y diswyddiad, dywed Mabon ap Gwynfor nad oes gan Vaughan Gething “reolaeth o gwbl ar ei lywodraeth ei hun, heb sôn am ei blaid ei hun ac ar Gymru fel cenedl”.
“Mae’r sefyllfa hefyd yn codi cwestiynau ynghylch hawl ddilys newyddiadurwyr i fynd ar ôl straeon, a pheidio ofni bod y bobol sy’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw yn cael eu dal allan.
“Dw i’n credu bod o wedi dangos diffyg crebwyll gwleidyddol a diffyg moesoldeb pan mae o’n dod i dderbyn yr arian.”
Mae Vaughan Gething o dan bwysau ynghylch rhoddion ariannol o £200,000 gafodd o gan gwmni Dauson Environmental, sydd wedi’u canfod yn euog o ddwy drosedd amgylcheddol.
Wrth ymateb i gwestiwn a fyddai’n pleidleisio o blaid cynnig o ddim hyder yn y Prif Weinidog, dywed Mabon ap Gwynfor nad oes ganddo hyder yn Vaughan Gething fel Prif Weinidog.
‘Ystyried ei sefyllfa’
Mabon ap Gwynfor yw’r aelod seneddol cyntaf o Blaid Cymru i ddweud yn glir bod ganddo ddim hyder yn y Prif Weinidog.
Dywed arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth bod rhaid i’r Prif Weinidog “ystyried ei sefyllfa,” ond nid yw wedi dweud bod ganddo ddim hyder ynddo.
“Mae wnelo gwleidyddiaeth â gweithio gydag eraill,” meddai Mabon ap Gwynfor ar X, Twitter gynt, hefyd.
“Mae Hannah yn un o’r bobol rheiny’r oeddwn i’n ei chael hi’n gweithio â hi.
“Roedd hi eisiau dod o hyd i dir cyffredin er mwyn cyflawni, ac roedd ganddi egwyddorion ac uniondeb.”
Pleidlais dim hyder ar y gorwel?
Mae golwg360 yn deall bod y Ceidwadwyr Cymreig yn ystyried opsiynau i wneud cynnig o ddim hyder yn y Prif Weinidog, ac yn siarad efo’r gwrthbleidiau i ddod o hyd i ffordd ymlaen.
Ar fideo ar gyfrif X y Ceidwadwyr Cymreig ddoe, dywedodd arweinydd y blaid, Andrew RT Davies bod y Prif Weinidog wedi cael “trychineb ar ôl trychineb”.
“Beth sydd gennym nawr yw dwy stori, un gan Hannah Blythyn yn dweud nid hi oedd wedi datguddio’r negeseuon.
“Ac mae hi’n defnyddio llinell hollbwysig bod uniondeb yn bopeth o fewn gwleidyddiaeth, a’i bod hi’n cadw at hynny.
“Mae hyn yn codi cwestiynau am ddewisiadau Vaughan Gething fel y Prif Weinidog, achos yn y bôn, mae hi fwy neu lai yn dweud ei fod yn gelwydd.”
Aeth ymlaen i uno efo neges Plaid Cymru i alw ar y Prif Weinidog i gyflwyno’r dystiolaeth sydd yn cefnogi ei benderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn.
Mae golwg360 wedi gofyn i Vaughan Gething a Llywodraeth Cymru am ymateb.