Mae’r Canghellor Rishi Sunak wedi diolch i’r rheini a fanteisiodd ar y cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan wrth i’r cynnig ddod i ben heddiw (dydd Llun).

Mae’r cynllun, sydd wedi cael ei galw’n “Rishi’s dishes” wedi cynnig disgownt o hyd at £10 y pen i bobl sydd wedi bwyta o ddydd Llun i ddydd Mercher yn y tai bwyta sy’n cymryd rhan.

Dywed y Canghellor bod 64 miliwn o brydau wedi cael eu hawlio ers i’r cynllun gael ei gyflwyno ddechrau’r mis i geisio hybu’r diwydiant lletygarwch sydd wedi dioddef yn sgil y coronafeirws.

“Wrth i’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan ddirwyn i ben, hoffwn ddiolch i bawb o’r bwytawyr sydd wedi dychwelyd i’w ty bwyta lleol,” meddai. “Diolch hefyd i’r rheolwyr sydd wedi sicrhau bod eu tai bwyta yn ddiogel ac i’r cogyddion a gweinyddiol sydd wedi gweithio’n ddiflino.

“Mae rhai lleoedd wedi denu mwy o gwsmeriaid nag erioed o’r blaen, a phawb ohonyn nhw wedi helpu amddiffyn 1.8 miliwn o swyddi yn y sector lletygarwch.”