Mae ymchwiliad i achos tân ar drên nwyddau yn Llangennech ger Llanelli wedi dod i’r casgliad na chafodd ei gychwyn yn fwriadol.

Roedd y trên yn cynnwys 25 o wagenni a phob un yn dal hyd at 76 tunnell o diesel neu olew nwy, pan ddaeth oddi ar y cledrau nos Fercher.

Dywed yr RAIB, sy’n gyfrifol am ymchwilio i ddamweiniau rheilffyrdd, fod y difrod i ddeg o’r wagenni wedi “arwain at dywallt llawer o danwydd a thân mawr.”

Does dim tystiolaeth o unrhyw droseddu ynghlwm â’r digwyddiad, fodd bynnag, yn ôl Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

“Ein canfyddiadau cychwynnol yw nad ydym yn credu i’r ddamwain ei hachosi gan weithgaredd troseddol,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Paul Langley o Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

“Rydym felly’n trosglwyddo cyfrifoldeb am yr ymchwiliad i’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd. Hoffwn ddiolch i bawb o’n partneriaid am helpu sicrhau diogelwch y gymuned leol.”