Mae un o safleoedd archaeolegol pwysicaf gwlad Groeg wedi ei arbed rhag cael ei ddifrodi gan dân gwyllt o’i gwmpas.

Mae pedair awyren gollwng dwr a dau hofrennydd wedi bod yn helpu rheoli’r tân gerllaw Mycenae, tua 75 milltir i’r de-orllewin o Athen.

Roedd y ddinas gaerog o’r Oes Efydd yn ffynnu ganrifoedd cyn i adeiladau mawr yr Acropolis gael eu codi yn Athen ac roedd yn un o ganolfannau pwysig gwareiddiad y Môr Canoldir.

Mae fflamau wedi duo prif fynedfa’r ddinas hynafol, ond dywed gweinidog diwylliant Gwlad Groeg, Lina Mendoni, mai dyma’r unig ddifrod.

“Fe wnaeth y gwasanaeth tân gweithredu’n gyflym … ac fe wnaeth y mesurau atal weithio,” meddai. “Roedd y tyfiant sych i gyd wedi cael ei glirio ymaith – dyna beth achubodd yr henebion.”

Yn y cyfamser, fe fu’n rhaid i 3,100 o bobl ffoi o’u cartrefi yn ne Sbaen wrth i dân gwyllt fynd allan o reolaeth.

Cynheuodd y tân ddydd Iau yn y mynyddoedd ger tref Almonaster la Real, i’r gogledd-orllewin o Seville, ac mae wedi lledaenu dros 100 cilometr sgwâr.

Mae 16 o hofrenyddion ac with awyren wedi bod yn helpu mwy na 500 o weithwyr i ymladd y tân, ac yn ôl gwasanaeth tanau coedwigoedd Andalucia, mae’n anodd dweud pa bryd y bydd y tân gwyllt o dan reolaeth.

Mae’r awdurdodau wedi bod yn ymladd tanau gwyllt yn rhanbarthau Murcia ac Extramadura hefyd.