Mae’r Democratiaid yn America wedi cyhuddo’r Arlywydd Donald Trump o annog trais hiliol er budd ei ymgyrch arlywyddol.

Daw hyn ar ôl i gefnogwr grwp asgell dde gael ei saethu a’i ladd mewn gwrthdaro rhwng dilynwyr Donald Trump a Black Lives Matter yn Portland, Oregon, nos Sadwrn.

Mae Donald Trump wedi bod yn trydar geiriau o ganmoliaeth i’r dyn fu farw, Aaron ‘Jay’ Danielson, ac wedi disgrifio’r protestwyr sy’n ei gefnogi fel ‘gwladgarwyr’. Mae hefyd wedi bod yn ceisio creu darlun o ddinasoedd o dan warchae trais a thorcyfraith, er bod y mwyafrif o’r protestiadau yn erbyn anghyfiawnder hiliol wedi bod yn heddychlon.

Ond mae’r Democratiaid yn beio Donald Trump am y tensiynau.

“Fe all feddwl bod rhyfel yn ein strydoedd yn dda i’w siawns o gael ei ailethol, ond nid arweiniad arlywyddol yw hynny – na hyd yn oed dosturi dyngarol sylfaenol,” meddai ei wrthwynebydd Democrataidd Joe Biden.

Yr un oedd neges Maer Democrataidd Portland, Ted Wheeler, mewn cynhadledd newyddion:

“Ydych chi’n meddwl o ddifrif pam mai dyma’r tro cyntaf mewn degawdau mae America wedi gweld y lefel hon o drais?” gofynnodd. “Chi yw’r un sydd wedi creu’r casineb a’r rhaniadau.”

Parhau’n aneglur mae union amgylchiadau’r saethu yn Portland nos Sadwrn.