Gallai troi at wythnos bedwar-diwrnod yn y sector cyhoeddus greu hyd at hanner miliwn o swyddi, yn ôl astudiaeth newydd.
Byddai hyn, gyda’r gweithwyr yn dal i gael cyflog llawn, yn helpu lliniaru’r cynnydd tebygol mewn diweithdra yn sgil y coronfeirws, ym marn y grwp ymchwil Autonomy a wnaeth yr astudiaeth.
Byddai cyfanswm cost y cynllun yn £9 biliwn y flwyddyn, sy’n gyfwerth â 6% o gyfanswm cyflogau’r sector cyhoeddus.
“Mae’r amser wedi dod am wythnos waith bedwar-diwrnod a dylai’r sector cyhoeddus arloesi gyda hyn, fel cyflogwr ac fel caffaelwr gwasanaethau,” meddai Will Stronge, o Autonomy.
“I helpu mynd i’r afael â’r argyfwng diweithdra rydym yn ei wynebu’r gaeaf yma, wythnos bedwar-diwrnod yw’r dewis gorau ar gyfer rhannu gwaith yn fwy cyfartal drwy’r economi a chreu swyddi y mae angen mawr amdanyn nhw.
“Mae wythnos bedwar-diwrnod yn gwneud cymaint o synnwyr gan y byddai’n hybu cynhyrchiant, creu swyddi newydd a’n gwneud ni i gyd yn hapusach ac iachach.”