Mae Ffrainc wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o fynd ati’n fwriadol i lesteirio trafodaethau masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd ac o fod â disgwyliadau afresymol.

Os na fydd cytundeb yn ei le erbyn diwedd cyfnod pontio ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr, mae ofnau y bydd tariffau a rhwystrau eraill yn cael eu gweithredu ddechrau’r flwyddyn nesaf.

“Nid yw’r trafodaethau’n symud ymlaen ac mae hynny oherwydd agwedd afresymol ac afrealistig y Deyrnas Unedig,” meddai gweinidog tramor Ffrainc, Jean-Yves Le Drian.

Pwysleisiodd na fydd 27 gwlad yr Undeb Ewropeaidd yn ildio i unrhyw bwysau gan Lundain.

“Fe wnaethon ni ddangos undod ar Brexit a phrofi’n anghywir y rheini a oedd yn gweld arwyddion o Ewrop yn dymchwel. Trwy aros yn unedig y gallwn lynu at ein nod o gytundeb cynhwysfawr.”

Ar drothwy’r sesiwn nesaf o drafodaethau yn Llundain ddydd Llun nesaf, mae’n ymddangos mai rheolau cymorth gwladwriaethol i fusnesau a physgodfeydd yw’r prif feini tramgwydd bellach.

Mae’r Undeb Ewropeaidd yn mynnu’r angen am ‘gae chwarae gwastad’ i gwmnïau o’r ddwy ochr, fel na all cwmnïau Prydeinig ddim cael mantais ar gwmnïau’r Undeb Ewropeaidd trwy anwybyddu rheolau llym ar yr amgylchedd a materion cymdeithasol. Mae Prydain yn gwrthod gofynion gan yr Undeb Ewropeaidd am fynediad hirdymor i ddyfroedd y Deyrnas Unedig.

Mae’r ddwy ochr yn dweud bod arnyn eisiau sefyllfa o osgoi bod heb gytundeb ar ddiwedd y flwyddyn.