Mae o leiaf 400 o bobl yn dal ar ôl ar safle rêf anghyfreithlon yn ardal Banwen, uwchlaw Cwm Nedd, er gwaethaf presenoldeb anferth gan yr heddlu yno.

Roedd tua 3,000 o bobl o bob rhan o Brydain wedi heidio i safle hen bwll glo brig ar odre Bannau Brycheiniog y penwythnos yma

Mae plismyn o Heddlu De Cymru, gyda help Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cipio systemau sain a chyhoeddi gorchymyn gwasgwaru – ond mae llawer wedi gwrthod symud ymlaen. Cafodd hofrennydd heddlu hefyd ei ddefnyddio i fonitro’r digwyddiad.

Mae wyth o bobl bellach wedi derbyn gwys llys, a allai arwain at ddirwy o hyd at £10,000 o dan gyfreithiau coronafeirws Llywodraeth Cymru. Mae eraill wedi cael rhybuddion cosbau sefydlog am droseddau parcio a cheir rhai ohonyn nhw wedi cael eu llusgo oddiyno.

Mae’r gweddill sydd ar ôl yno wedi cael eu rhybuddio i symud ymlaen cyn iddi nosi neu fod mewn risg o gael eu harestio.

‘Tasg anferthol’

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, David Thorne, bod symud pobl o’r safle 4,000 erw wedi bod yn anodd.

“Pan mae 3,000 o bobl i gyhoeddi gorchymyn gwasgaru arnyn nhw mae’n dod yn dasg anferthol,” meddai.

“Hyd yn oed gyda’r adnoddau a oedd ar gael inni ar fyr rybudd, doedden nhw ddim yn ddigon i symud pobl ymlaen yn gyflymach mewn modd diogel.

“Gan fod llai o bobl yno  bellach, byddwn yn cymryd camau llym os na fydd pobl yn cymryd sylw o’r gorchymyn gwasgaru.”

Mae pobl leol wedi bod yn cwyno am sbwriel yn cael ei adael a phobl yn maeddu’r safle oherwydd diffyg toiledau a chyfleusterau eraill.

“Mae hyn yn gwbl anghyfrifol ac yn amharchu’r cymunedau lleol,” meddai David Thorne.

“Credwn fod y rheini a oedd yma yn dod o bob rhan o Brydain – llawer ohonyn nhw wedi teithio gannoedd o filltiroedd i ddod yma, felly dyw hyn ddim wedi digwydd ar ddamwain.

“Mae hyn wedi cael ei gynllunio ac o bosib ei gynllunio ers peth amser, ond yn anffodus maen nhw wedi gallu cynllunio hyn o dan y radar, felly doedd neb o’r awdurdodau yn gwybod.”