Dywed Nicola Sturgeon fod y cynnydd mwyaf mewn achosion coronafeirws yn yr Alban ers tri mis yn peri pryder iddi.

Yn y 24 awr diwethaf, mae 160 o achosion newydd o’r Covid-19 wedi cael eu cofnodi, y cyfanswm mwyaf ers Mai 16 a chynnydd ar y 123 a gofnodwyd ddoe.

Mae’n cymharu â chynnydd o 39 yng Nghymru a 58 yng Ngogledd Iwerddon. Ni fu marwolaethau newydd yn yr un o’r tair gwlad.

Wrth i gyfanswm achosion yr Alban godi i 20,478, dywedodd y Prif Weinidog Nicola Sturgeon:

“Mae’r nifer eithaf uchel o achosion newydd yn rhannol o ganlyniad i niferoedd mwy o bobl yn cael eu profi ac mae’r gyfran o bobl sy’n profi’n bositif yn dal o dan 1%.

“Ond mae’r nifer o achosion rydym yn eu gweld ar hyn o bryd yn atgoffa pawb ohonom fod y feirws yn risg gwirioneddol, mae’n ddatblygiad sy’n fy mhryderu ac mae’n un rydym yn ei gymryd yn ddifrifol iawn.

“Dw i’n apelio ar bobl i feddwl yn ofalus iawn sut ydych chi’n byw eich bywyd ar hyn o bryd.”

Wrth edrych yn ôl ar y saith mis diwethaf, ychwanegodd:

“Mae rhai adegau gwirioneddol dywyll wedi bod ers dechrau mis Mawrth, ac yn fwy diweddar, mae yna adegau o fwy o obaith ac optimstiaeth.

“Dw i bob amser yn ceisio bod yn onest gyda chi am fy nheimladau, ac mae’n bwysig fy mod i’n dweud wrthych fy mod i’n teimlo mwy o bryder heddiw nag ar unrhyw adeg yn y ddeufis ddiwethaf. Rydym mewn sefyllfa fregus.”