Mae Heddlu’r De wedi llwyddo i symud pawb oddi ar safle rêf yn ardal Banwen yng Nghwm Dulais, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n credu bod 22 o bobol ynghlwm wrth drefnu’r digwyddiad.

Byddan nhw’n dwyn achos yn eu herbyn yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n atal digwyddiadau di-drwydded i fwy na 30 o bobol.

Gallai collfarn arwain at ddirwy amhenodol, neu fe allen nhw gael dirwy o £10,000 heb gollfarn.

Fe fu Heddlu’r De, Heddlu Dyfed-Powys a’r Heddlu Trafnidiaeth yn cydweithio ar blismona’r digwyddiad, gan gipio cerbydau ac offer cerddorol.

Mae tri o bobol wedi’u harestio – dau ohonyn nhw am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ac un am ymddwyn yn erbyn y drefn gyhoeddus.

Dywed yr heddlu iddyn nhw ymateb ar unwaith pan glywson nhw am y digwyddiad, ac y byddan nhw’n edrych ar ddeunydd fideo i geisio adnabod rhagor o bobol yn y rêf i’w herlyn.

Maen nhw hefyd yn dweud bod pobol wedi bod yn “anghyfrifol” wrth ymgynnull yn erbyn y cyfyngiadau coronafeirws ac am deithio cannoedd o filltiroedd i fynd i’r digwyddiad.