Dydy 72% o bobol yng Nghymru ddim yn ymddiried yn San Steffan i ofalu am fuddiannau Cymru, yn ôl pôl newydd.
Mae’r pôl gan YouGov ar ran Yes Cymru yn awgrymu bod 65% o bobol yn ymddiried yn Senedd Cymru, ond dim ond 28% sy’n ymddiried yn San Steffan.
Dywedodd 64% fod Llywodraeth Prydain a Boris Johnson wedi ymateb yn wael i argyfwng y coronafeirws.
Ond dywedodd 78% eu bod nhw’n credu bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn dda.
Ymateb Yes Cymru
“Mae ymddiriedaeth pobl mewn gwleidyddiaeth yn isel yn gyffredinol ond mae bron i ddwy ran o dair yn ymddiried yn Senedd Cymru i ofalu am fuddiannau pobl Cymru,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd Yes Cymru.
“Ar y llaw arall dim ond 28% sy’n ymddiried yn senedd y Deyrnas Gyfunol. Mae pobl Cymru wedi’u dychryn gydag ymateb amhriodol llywodraeth Prydain, sydd mor galon-galed a di-glem.
“Mae’r argyfwng hwn wedi dangos holl ffaeleddau’r system wleidyddol Brydeinig, ac wedi dangos yn glir nad yw Llywodraeth San Steffan yn poeni dim am Gymru. Pam ddylen nhw?
“Does dim ots sut byddwn ni’n pleidleisio yng Nghymru, ni o hyd yn cael llywodraeth na wnaethom ni bleidleisio drosto.
“Mae Covid-19 wedi dangos bod cenhedloedd annibynnol bychain, fel Seland Newydd, a’n cymdogion yng Ngweriniaeth Iwerddon yn gallu ymateb yn sydyn ac effeithiol i argyfwng rhyngwladol.
“Mae Cymru wedi gwneud yn dda, ond mae pobl yn dechrau meddwl faint yn well y gallen ni fod wedi gwneud petai ni’n genedl annibynnol.
“Ers dechrau argyfwng COVID-19 mae aelodaeth YesCymru wedi treblu.
“Mae pobl wedi gweld bod Senedd Cymru wedi delio â’r argyfwng yn well unwaith iddo beidio ildio i drefn San Steffan, ac mae nifer o bobl yn dechrau gofyn beth arall allai Cymru fod wedi gwneud yn well pe na bai wedi plygu a dilyn San Steffan yn ffyddlon.
“Mae cefnogaeth i annibyniaeth ar gynydd, ac mae llywodraeth drychinebus Boris Johnson yn Llundain wedi bod o gymorth mawr gyda hynny.”
Ymateb arbenigwr
Yn ôl Dafydd Trystan, y gwyddonydd gwleidyddol, “mae dau beth trawiadol i’r data”.
“Mae’r teimlad i Lywodraeth Cymru ymateb yn well i argyfwng pandemig y coronafeirws yn croesi pob plaid,” meddai.
“Mae’r gwrthwyneb yn wir am lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd heb gael ymateb ffafriol gan leiafrif sylweddol o gefnogwyr Ceidwadol hyd yn oed.
“Mae’n dangos hefyd bod pleidleiswyr o bob plaid yn ymddiried yn Senedd Cymru yn gyffredinol i ofalu am fuddiannau Cymru – does dim modd dweud yr un peth am Senedd y Deyrnas Gyfunol gyda phleidleiswyr Llafur yn cymryd golwg arbennig o isel o San Steffan.”