Mae byddin Israel yn dweud eu bod nhw wedi taro targedau Hamas yn Gaza wrth ymateb i ymosodiadau yn eu herbyn nhw.

Dydy hi ddim yn glir a gafodd unrhyw un ei anafu, ond fe ddaw’r ymosodiadau yng nghanol argyfwng economaidd a’r coronafeirws i Gaza.

Mae Hamas wedi lansio balwnau yn Israel dros yr wythnosau diwethaf, gan ddifetha tiroedd ffermydd eang, ac mae Israel wedi ymateb gydag ymosodiadau o’r awyr.

Dydy byddin Israel ddim wedi cadarnhau pa dargedau gafodd eu taro, ond mae Hamas yn pwyso arnyn nhw i leihau’r blocâd ar Gaza a galluogi datblygiad eang.

Mae’r Aifft a Qatar yn ceisio cadoediad rhwng y ddwy ochr.

Blocâd

Fe wnaeth Israel a’r Aifft gyflwyno blocâd yn Gaza ar ôl i Hamas gipio grym oddi ar luoedd Palesteina yn 2007.

Dywed Israel fod angen blocâd i atal Hamas rhag arfogi ymhellach, ond mae beirniaid yn dweud mai cosb yw hyn.

Mae Israel a Hamas wedi ymladd tri o ryfeloedd a sawl brwydr lai ers cyflwyno’r blocâd.

Mae’r economi’n agos at ddymchwel a does dim digon o adnoddau iechyd i ymdopi â’r coronafeirws.

Mae Israel hefyd wedi atal mynediad i rai o adnoddau mwyaf gwerthfawr y wlad.