Mae ymchwilwyr wedi dweud bod y trên disel aeth ar dân yn Llangennech, Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys 25 wagen oedd yn cludo hyd at 100 tunnell o ddisel, nwy neu olew.

Digwyddodd y ddamwain am 11:15yh nos Fercher (Awst 26) ac fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 11.20yh.

Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) wedi dweud bod y ddamwain wedi arwain at “ollyngiad sylweddol o danwydd a thân mawr.”

Aeth 10 o’r wagenni oddi ar y cledrau.

Llwyddodd dau o bobol i ddianc heb gael eu hanafu, ac fe aeth tri char ar dân.

Dywed y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd ei bod yn ceisio darganfod beth achosodd y ddamwain a sut ddechreuodd y tân.

Roedd gofidion y gallai’r disel lifo mewn i’r Afon Llwchwr a chael effaith trychinebus ar y diwydiant pysgodfa cocos lleol, gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn awgrymu cau gwlâu pysgod cregyn yn yr ardal.

Roedd y trên, sy’n berchen i DB Cargo UK, yn teithio o Aberdaugleddau i Theale, Berkshire.

Mae pobol leol wedi disgrifio clywed sŵn mawr cyn gweld tân.

Bu’n rhaid i bobol o fewn 800 metr i’r tân adael eu cartrefi a mynd i’r ysgol a’r ganolfan gymunedol leol.

Cafodd pobol ddychwelyd i’w tai ar ôl 5yb ddydd Iau (Awst 27).